gwymp ac eiddo'i wrthwynebydd yn ei gysgod, pan atafaelwyd eiddo'r ddau argraffydd, ac y distawyd cân a dychan y ddau olygydd â'r un ergyd. Mae'n hen ddywediad am y cythreuliaid, pan ymrithiant ar lun llewod y diflannant yngwydd ceiliog gwyn. Yr oedd llewod o ddynion, o ran yr olwg arnynt, yn barod i ddiflannu yngwydd y ceiliogod hyn o bapurau newydd- ion, p'run a oeddynt yn geiliogod mor wynion ai peidio. Yn y man, wele'r Philo-Figaro yn dod i'r golwg, ond diflannodd yntau ar y rhifyn cyntaf fel ceiliog coch o flaen y llewod hwythau. Pwyllgor eglwysig yn cyfarfod yn y ddinas a ddechreuodd gyhoeddi'r Cymro yn 1848, ac yma ar y cychwyn yr argraffwyd ef. Bwriedid ef fel gwrthwynebydd i'r Amserau dan olygiaeth Hiraethog. Yn 1864 fe'i hargreffid ym Mangor drachefn, ac erbyn hynny dan olygiaeth Gwyneddon, ond darfu ei hoedl ymhen y ddwy flynedd. Daeth Papyr y Bobl allan yma yn 1865 dan olygiaeth Gweirydd ap Rhys, ond ni estynnwyd mo'i hoedl nemor. Daeth Cronicl y Cymru i'r goleu ar y Calan, 1866, Gwyneddon yn olygydd. Yn etholiad 1868 yr oedd ysgrifenwyr sefydlog i'r papur yn cefnogi Toriaeth, ac ymddiswyddodd y golygydd, a diffoddodd llewyrch Cronicl y Cymru yn y man. Ychydig wythnosau cyn yr etholiad cyffredinol yn 1874 y cychwynnwyd Llais y Wlad. Papur Ceidwadol y cyfrifid hyd 1881, pan bleidiai syniadau annibynol. Diffoddodd ei lewyrch yntau yn 1884. Papur yn pleidio hawliau'r werin oedd y Celt, ond ni bu ei arosiad yma ond lled fyrr. Ymgartrefodd y Gwalia yma ymhen rhai blynyddoedd ar ol ei sefydlu yn 1881. Papur o naws geidwadol. Fe welir fod y papurau hyn yn hytrach yn awgrymu awyrgylch eglwysig a cheidwadol, fel y gweddai i ddinas dan lywodraeth esgob ac arlwydd. Ers blynyddoedd bellach fe chwyth awelon oddiar wyneb y môr yn gryfach ac amlach o ddau pen y dyffryn hirgul.
Am y cylchgronau, nid ymddangosodd ond ychydig rifynnau o'r Twr Gwalia misol, a hynny yn ystod 1843. Daeth Winllan y plant Wesleyaidd allan yn 1848. I'r Winllan y danfonodd Evan Jones Moriah ei ysgrif gyntaf ebe fe'i hun yng Nghynadledd y Wesleyaid yng Nghaernarvon yn 1905. Nid ymwelodd yr Athraw a'r Ymwelydd ond dros ystod pedwar rhifyn misol, gan gychwyn ar ei deithiau, Ebrill, 1864. Dechreuodd Monwyson olygu'r Athronydd Cymreig yn 1890, a