Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dafydd Goch. [Dyma'r hen Ruffydd yn ei le yn ol eto, pa bwys bynnag a berthyn iddo!] Ond hoff gennyf fi feddwl. am y Betws megis ag yr oedd pan wnelai David Cox a'r arlunwyr a'i canlynai y Royal Oak yn fan cyfarfod, ac, ynghyda gwŷr yr enwair a ymgrynhoai yno, a barai yno gymrodoriaeth amheuthun, a barheid o dymor i dymor, heb aflonyddu arni gan unrhyw feddwl am leisiaid Norweg, neu fynyddoedd y lleuad, neu gan ymarllwysiad gwyliau'r banc neu rwmbwlian y siar-a-banc.

"Ond mae arnom eisieu cyrraedd Bangor yn y bennod hon, ac nid yw'r fan honno yn ddim llai nag ugain milltir oddiyma. Mi ymataliaf rhag unrhyw gais i ddisgrifio 'n fanwl y chwe' milltir hysbys sydd rhwng y Betws a thramwyfa gynefin Capel Curig. Fel y deuwn i olwg Capel Curig, dyma bigynnau'r Wyddfa yn ymdorri ar draws wybr y gorllewin. Rhai bwthynnod gwasgaredig, eglwys fechan henafol, gwesty mawr yn edrych i lawr ar ddau lyn disglair ac i fyny nant werddlom i gyfeiriad yr Wyddfa,-dyna'r cwbl ag yw pentref clodfawr Capel Curig! Ond ychydig gannoedd o latheni cyn cyrraedd yno, mae ffordd fawr Caergybi a'r Lugwy eiddil bellach, a ninnau ynghyda hwy, gan ein bod yn rhwym i Nant Ffrancon, yn troi yn swta i'r dde, a chan adael o'r tucefn wyrddlesni'r gwastadeddau ni olwynwn yn esmwyth dros elltydd ysgeifn ar hyd anialdir ardderchog yn wir." Hyd yma Bradley.

Mangreoedd ysbrydion nis gallasai'r lleoedd a ddisgrifiwyd beidio â bod. Diau fod Nant y Ffrancon i'w ddeall am yr afancwn neu'r ellyllon a lechai yng ngwaelodion y llynoedd. afanc ym mhob i lyn, er, yn eithaf tebyg, y bu'r beaver bychan yma hefyd, a elwir wrth yr un enw. Yr oedd Sarn yr Afanc yn y Ceunant yng nghwrr isaf y nant, ac y mae Llyn yr Afanc yn agos i Gapel Garmon. Creaduriaid gwirioneddol unwaith, yr un adeg neu gynt na'r adeg y troediai'r anifail cors y ddaear, ond a aethant wedi hynny yn ellyllon dychmygol.

Nid yw Llyn Corwrion yn Arllechwedd Uchaf, ym mhlwyf Llandegai, ond llyn bychan, ond y mae'n ffrostio pethau mawrion. Ni feddai waelod, a phreswylfan y tylwyth teg ydoedd. Ar foreuau braf braf ym mis Mehefin, fe 'u gwelid hwy oddiar lethrau'r bryniau yn medi'r gwair, a'u catel yn