Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gallon nhw ymddangos i ddynion." Fel y troai'r Hen Broffwyd ei gefn ar y dorf er myned i'w eisteddle, dyna foneddwr o Sais na ddeallodd ddim o'r araeth ond yr enwau ysgrythyrol yn neidio oddiar yr esgynlawr yn ei wyneb, ac yn ei droi drachefn i wynebu'r bobl, fel y gorfu iddo fyned ymlaen am ennyd drachefn.

Er na wyddis i Griffith Jones Tregarth, fod yn rhyw gyhoeddus iawn ynglyn â dirwest ar unrhyw gyfnod o'i oes, eto yn awr ac eilwaith fe'i ceid yn dadleu drosto a dygai sêl yn ei ran. Fe adroddid sylw o'i eiddo ryw 50 mlynedd yn ol, pan oedd y penny readings nos Sadwrn mewn bri, i'r perwyl yma: "Mae'na rai creaduriaid, mi fedran fyw ar y tir ne'r môr fel mynnon nhw. Un o honyn nhw ydi'r crocodeil: mi fydd yn llercian am oria ar y lan gan wylio am ysglyfaeth; er hynny yn y dwr y mae i ffau o. Mae'na bobol 'run fath a fo: mil fedran fyw mewn dwy elfen wahanol i'w gilydd, y dwr neu'r tir, 'run fynnon nhw. Mi fasech yn meddwl nad oes dim cydnawsedd rhwng y ddau beth; ond waeth p'run, mi fedr y bobol yma fyw yn y naill neu'r llall. Mi cewch nhw yn y seiat nos Fercher; yn y penny readings nos Sadwrn;—crocodeilod! Mi cewch nhw yn y cyfarfod gweddi pen mis;—yn y dafarn. ar nos Lun arall;—crocodeilod! Cael hwyl yn y cyfarfod pregethu wrth wrando ar bregeth ddoniol;—hwyl fwy na hynny yng nghyfeddach a chrechwen y dafarn;—crocodeilod! Creaduriaid peryglus ydi'r crocodeilod:—gwyliwch bobol rhag y crocodeilod!" Dull cwta, toredig, difrif, brathog yr adroddiad, ynghyda'r pwyslais hirllaes, diystyrllyd, ar y crocodcilod, a yrrai'r wers adref yn effeithiol. Rhoid gwaharddiad rhag y penny readings y pryd hwnnw fel pethau, oherwydd eu cynnal ar nos Sadyrnau yn enwedig, a anhymherai'r meddwl ar gyfer gwasanaeth fore Sul. Dyma ryw grynhodeb, a wnaethpwyd rywbryd ar ol y cyfarfod, o araeth ferr o'i eiddo yng nghyfarfod dirwest brynhawn Sul ym Mhendref, Caernarvon, oddeutu 45 mlynedd yn ol, pryd nad oedd y cynhulliad ond un o'r rhai lleiaf, ac yntau heb ei ddeffro ddim oddiar ei lwybr mwyaf cynefin: "Y mae'n gofyn gwroldeb ac ymdrech i ddal ati efo dirwest. Rhaid i chwi fynd yn erbyn arferion cymdeithas os am lynu wrth ddirwest. A chwi ddigiwch bobol weithia wrth fynd yn erbyn i harferion nhw: mae nhw'n hoff o'u harferion i hunain; a fyddan nhw ddim yn hoff ohonoch