Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymfudodd i'r Amerig yn 1860, a chyhoeddodd yno'r Canigydd Cymreig, yn cynnwys yr Aderyn Pur. Ymflagurodd Gwilym Caledffrwd yn fardd cystal a cherddor. Bu Asaph Llechid (1834 -58) farw yn 24 oed, ac efe yw awdwr yr anthem, Dyn a aned o wraig. Meddai William Thomas Caellwyngrydd (1835-63) ddawn fel cerddor, bardd a llenor. Ganwyd Robert Roberts yn 1840, awdwr cantawd Gwarchaead Castell Harlech, ac yn 26 oed yr ydoedd yn is-organydd Eglwys Gadeiriol Bangor. Cyfansoddodd J. H. Roberts (g. 1847) donau, alawon ac anthemau.

Nid oedd Wmffre Crymlyn y ser-ddewin cywraint a anwyd yngwaelod plwyf Llanllechid, yn ei gorff daearol pan sangodd y Methodistiaid cyntaf ar ddaear Llandegai neu Lanllechid, er y gallai y bu'n blino rhai ohonynt yn ei gorff serol. Nis gallasai hynny fod ychwaith os nad aeth yn hynafgwr, gan yr el y corff serol hefyd, neu'r "anadl cnawdol, i'r chwalfa" (ys dywed Morgan Llwyd) cyn pen rhyw saith mlynedd yn ol y dyb gyffredin.

Gan John Morris y Bronnydd (1778-1843) y cafodd Arfonwyson ei wersi cyntaf mewn seryddiaeth a daearyddiaeth. Ganwyd W. T. Rogers yn 1807 mewn mangre a elwid y Machine sydd erbyn hyn dan y rwbel. Tebyga Llechidon ei fod yn un o'r cerfwyr ar feini goreu yn y deyrnas, ac ä mor bell a'i alw'n "awdwr Coleg Normalaidd Bangor."

Bellach am y bobl na anwyd monynt yn y plwyfi hyn, ond a gawsant y fraint o breswylio yma.

William Williams, Llandegai yw awdwr yr Observations on the Snowdon Mountains a Phrynhawngwaith y Cymry. Mae i'w ganmol am ei chwilfrydedd a'i fynych gais at degwch. Daw'r eglwyswr go led gul i'r golwg ar dro weithiau; ond saif yn bybur dros ei wlad a'i bobl.

Daeth Gutyn Peris yma i'r chwarel yn rhyw 18 oed, sef oddeutu 1787, ac yma y bu farw yn 1838. Pan yn cadw ysgol yn Nhy'n y clawdd byddai Robyn Ddu, fel y dywed, yng nghwmni ei athro tirion, Gutyn Peris, ac efe a brofodd y goreu o bawb yn ei amynedd yn ceisio ei wella fel bardd. "Cerais ef a'i blant yn fawr." Am y beirdd a welais i, pan yn hogyn, naw wfft i'w hunanoldeb." Ni cheisia'i y rheiny ei wella ond ei oganu yn ei gefn. Dywed Robyn Ddu ddarfod iddo yntau ei