Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/100

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond 26 oed, ac yn raddol fe ddaethpwyd i'w deimlo yn ddylanwad yn y dref. Yn y seiadau fe roddai ei le llawn i'r pregethwyr eraill, a gwnelai hynny, nid ar ei ddyfodiad cyntaf yma yn unig; ond ar ol codi ohono i uchter ei ddylanwad, a phan erbyn hynny yr oedd pellter amlwg rhyngddo a'r pregethwyr eraill oedd yma. Gydag ef, feallai, os rhywbeth, mai'r perygl yn hytrach oedd i eraill gymeryd mwy na'u rhan briodol. Yr oedd cyfaddaster arbennig ynddo i'r seiat yn ei ddull tawel, mwyn, cydymdeimladol, profiadol, ac ym mharodrwydd ei feddwl a'i gyfoeth o eglurebau, ac yn ei gallineb distaw a'i sirioldeb a'i adnabyddiaeth o'r natur ddynol. Dywed Henry Jonathan na welodd efe mo neb tebyg iddo am gadw seiat (D. C. Evans, t. 95), a bu ef yn y seiat gyda John Elias yn Llangefni am naw mlynedd, a chyda John Huxley am flynyddoedd. Rhydd W. P. Williams rai enghreifftiau o'i ddywediadau yn y seiat. Wrth i chwaer amlygu ei hofn na dderbyniodd faddeuant erioed, gofynnodd iddi a wyddai hi am edifeirwch. Dywedai fod edifeirwch. a maddeuant fel banknote wedi ei dorri yn ei hanner, fel y bydd masnachwyr yn gwneud weithiau er diogelwch, gan ddanfon y naill ran yn gyntaf a'r llall wedi hynny: felly y mae edifeirwch fel y naill hanner yng nghalon pechadur ar y ddaear, a'r hanner arall yn faddeuant yng Ngorsedd Duw, ac ar fynediad y credadyn i'r nefoedd bydd y darnau yn cael eu hasio, ac yn clirio y ffordd i fyny ac i lawr. Dywedodd dro arall nad oedd mo fath Duw am dynnu llun. Fe dynn yr amlinelliad yn yr ail-enedigaeth, a pherffeithia'r llun yn y sancteiddhad, ac erbyn y gorffenner ef bydd ar ddelw'r Brawd Hynaf ei hun. Dywedai dro arall, mewn cyfeiriad at y dull o wahaniaethu rhwng y cyfiawnhad a'r sancteiddhad, gan roddi'r naill o flaen y llall, y meddyliai ef, ond edrych yn ddwfn, y ceid hwy yn debyg i fynyddoedd ein gwlad, yn ymwahanu i'r golwg, ac yn cymeryd enwau gwahanol; ond wrth eu holrhain i'w gwraidd yn myned yn un â'i gilydd. Eithr fe fyddai cymhariaethau o'r fath, a rhai symlach na'r rhain, gan y defnyddiai weithiau rai tra syml, yn ymogoneddu yn arddull ei draddodiad ef. (Edrycher y Graig.) Nos Iau, Hydref 13, 1859, am saith, y cynhaliwyd oedfa Dafydd Morgan ym Moriah. Arhosodd 21 o newydd. Gofynnodd y diwygiwr brofiad un ohonynt, sef capten llong. "Yr ydw'i wedi penderfynu heno," ebe yntau, "roi tac arall arni o hyn allan." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 469.) Dywed W. P.