Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/104

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu William Swaine farw, Chwefror 2, 1870, yn 75 oed, yn flaenor ers 38 mlynedd. Yr oedd ei enw ar lyfr yr eglwys yn 1815. Cyfrifid ef yn wr llednais a duwiol. Heb rym neilltuol yn ei feddwl, yr oedd yn o gydnabyddus â'r Ysgrythyr, ac hefyd â Thaith y Pererin, Gurnal, Boston ar Bedwar Cyflwr Dyn, Esboniad George Lewis ar y Testament Newydd a'i Gorff Diwinyddiaeth, ac, yn enwedig, Geiriadur Charles. Siaradai i bwrpas yn y seiat, er na siaradai yn aml, a theimlid ei fod yn wr mawr mewn gweddi. Dyma sylw Mr. Evan Jones arno: "Angel oedd William Swaine, diniwed a di-uchelgais. Cerid ef gan bawb, ac ni ddywedai neb ond gair da am dano. O'i ran ef cae pawb wneud yr hyn oedd dda yn ei olwg ei hun. Yr oedd yn barchus ryfeddol, ac yn haeddiannol felly. Gwrandewid arno fel angel Duw. Ond nid oedd yn cymeryd cymaint o ofal am bethau allanol yr achos a David Rowlands." Ei hoff bennill, ebe Mr. Griffith Parry,—Am Iesu Grist a'i farwol glwy, Boed miloedd mwy o sôn. A dywed, hefyd, ei fod ef ei hun, yn rhyw brofedigaeth, wedi cael adnod ganddo; ac y mae yn werth ei choffhau fel adnod un "angel angel" i "angel" arall, sef hon: "Disgwyl wrth yr Arglwydd, ymwrola, ac efe a nertha dy galon; disgwyl, meddaf, wrth yr Arglwydd."

Bu Evan Richardson Owen farw Hydref 13, 1870, yn 50 oed, ac yn flaenor er 1860. Yr oedd ef yn ŵyr i Evan Richardson. Yr ydoedd yn ŵr dichlynaidd, ac yn ffyddlon yn ei swydd. Tebygir ei fod yn meddu ar radd o graffter, cystal a bod yn fanwl ei syniadau a'i arferion. Cyfarfu unwaith yn y cei, ar brynhawn braf, à bachgen 8 oed, a ddylasai fod yn yr ysgol, er na arferid gorfodaeth y pryd hwnnw. Wrth weled y blaenor gostyngodd y bachgen ei ben. Tebygir na adwaenai y blaenor ef, ond fe aeth ato yn y fan, a gofynnai am ei enw, a pham nad ydoedd yn yr ysgol? Rhoes air o gyngor i'r bachgen, a danfonodd yn ei gylch at ei rieni y noswaith honno. Ni bu'r bachgen yn chware triwant na chynt na chwedyn, a chafodd argraff annileadwy ar ei feddwl o graffter meddwl Evan Richardson Owen.

Aeth Richard Gray Owen yn genhadwr i China o'r eglwys hon. Ni wyddys mo'r amseriad.

Yr ydoedd Owen Ellis wedi ei wneud yn flaenor yn 1832. Yr ydoedd yn fab i'r Peter Ellis y sonir am dano ynglyn â chychwyniad yr achos, o'i wraig gyntaf. Wedi bod yn flaenor