am lawer o flynyddoedd, gorfu ei ddiarddel o'i swydd oherwydd anwyliadwriaeth gyda'r diodydd meddwol. Bu ar un adeg ar ei oes yn agored i lesmeiriau o brudd-der, ac nid annhebyg nad hynny fu'n achos ei lithio gyda diod. Oherwydd yr iselder hwnnw fe gadwai adref ar brydiau, a bu hynny yn achos o'i ddrwgdybio o fod dan ddylanwad y ddiod yn amlach nag oedd wir. Gwr cymharol fychan o ran maintioli, ond cymesur, a hardd a deallus a boneddig yr olwg arno. Yn ei hen ddyddiau, gyda'i ymddanghosiad trwsiadus, a'i wallt gwyn, modrwyog, a'i brydwedd tarawiadol, yr oedd yn un o'r hen wŷr prydferthaf a ellid weled. Fe gafodd fanteision boreuol da ym mhob ffordd, ac yr oedd yn ddyn goleuedig ei feddwl, a'i arferion i gyd yn fanylaidd a glanwedd a syber. Fe godai bob briwsionyn a diferyn oddiar ei blât wrth fwyta heb unrhyw rodres, ac heb dynnu'r sylw lleiaf ato'i hun. Yr oedd yn agos at yr ieuainc, megys pe yn un ohonynt. Yr oedd pob amheuaeth ynghylch ei ymarfer â diod wedi hen gilio, ac addfedodd ei gymeriad mewn prydferthwch sancteiddrwydd. Yn ei flynyddoedd olaf i gyd, yr oedd wedi symud i fyw i Lanberis, lle bu farw Chwefror 3, 1881, yn 89 oed. Yr oedd ei feddylfryd, erbyn hynny, yn gyson. ar bethau ysbrydol, a chlywid ef arno'i hunan yn adrodd adnodau a phenillion, ac yn cyfarch y Gwaredwr drwy gydol y dydd. Edrydd Mr. Morris Roberts am dano mewn seiat ym Moriah yn fuan ar ol sefydlu Mr. Evan Jones yma. Fe arferai eistedd yn y sêt fawr, ond y noswaith honno, fel yr ai Mr. Jones o amgylch, yr oedd wedi symud o'r sêt fawr at fainc yn ymyl, a symud wedyn i sêt arall. Wrth ei weled yn anesmwytho, fe ganfu Lewis Lewis fod ganddo rywbeth ar ei feddwl, a galwai sylw Mr. Jones ato. Troes yntau ato. "Y Y mae ganddochi rywbeth gwerth ei ddweyd wrth y seiat heno?" "Oes," ebe yntau, " y mae gen i rywbeth gwerth i ddweyd heno. Y mae gen i hen gyfaill wedi symud i fyw i wlad bell iawn, iawn, pellach o lawer nag America neu Awstralia. Ac mi wyddochi, pan mae hen gyfaill i chwi wedi eich gadael i fynd i fyw i wlad bell, ac wedi addo cyn cychwyn anfon i chwi hanes y wlad, yr ydych yn disgwyl y naill wythnos ar ol y llall, a'r naill ddydd ar ol y llall, am air oddiwrth y cyfaill hwnnw, ac yr ydych yn disgwyl yn wastad am rap y postman wrth y drws, ac yn cael eich siomi y naill ddiwrnod ar ol y llall, fel o'r diwedd y mae eich amynedd bron wedi pallu; ac yna yr ydych yn agor y drws, ac
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/105
Prawfddarllenwyd y dudalen hon