Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unwaith lun golygfa heb fod yn fawr mewn arddangosfa, a gofynnodd £100 am dano, a chafodd hwy. Fe ddywed R. O. Bethesda yn y Goleuad (1875, Hydref 19, t. 10) fod lluniau o'i eiddo yn arddangosfa Wrexham yn tynnu sylw, sef o Gastell Bu Cidwm, Llyn Cwellyn a'r Wyddfa o Nant Gwynant. ganddo 14 o ysgrifau yn y Traethodydd, 5 ar y gelfyddyd o arlunio, 1848-9. Dywed R. O. mai ar ei anogaeth ef yr ysgrifennodd y Dr. Lewis Edwards ar Gyfnewidwyr Hymnau. Fe ddywedid y byddai erthyglau o'i eiddo yn ymddangos weithiau yn rhai o'r papurau dyddiol Seisnig. Fe bregethai yn achlysurol yn y Saesneg, a dichon ei fod yn fwy o feistr ar arddull Saesneg na Chymraeg. Pregethodd yn Saesneg yn yr awyr agored yn y Maes ar un achlysur gyda gwir ddwyster teimlad, oddiar y geiriau, Oni edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd. Siarad braidd yn gyflym y byddai, heb deimlad yn gyffredin. Mater llawn synnwyr, ond nid bob amser wedi ei nyddu yn glos, neu'n gelfyddgar, ac heb swyn mewn mater nac arddull. Bu'n cynnal cyfarfodydd darllen gyda'r dynion ieuainc ar hyd y blynyddoedd, ers 20 mlynedd o leiaf, a gwerthfawrogid ei lafur cariad ganddynt. Aeth amryw o'r rhai fu gydag ef yn ei ddosbarth yn bregethwyr ar ol hynny. Un cymhwyster iddo. yn y dosbarth hwnnw ydoedd ei gyfarwydd-der cymharol yng Ngroeg y Testament Newydd. Fe adroddir fod William Roberts Amlwch unwaith wedi taro arno yn darllen ei Desta- ment Groeg, a dechreu ei holi. Synnodd Evan Williams at y cwestiynau, gan ddiharffu braidd, er y dywedid fod ei wybod- aeth o'r iaith y pryd hwnnw yn fwy nag eiddo William Roberts. Ystyria Mr. Morris Roberts ef yr athro goreu y bu gydag ef, a thýb ei fod gydag ef pan gychwynnodd gynnal y dosbarth. Os felly, tebyg mai dyna'r dosbarth darllen canol wythnos cyntaf ym Moriah. Yr oedd tua deuddeg yn y dosbarth, sef, ymhlith eraill, John Richardson, William Davies y rhaffwr, Thomas Morris, cystal a Mr. Morris Roberts ei hun. Byddai rhyw bwnc penodol gerbron bob tro. Y Bod o Dduw y pwnc cyntaf i gyd; pwnc arall, Ysbrydoliaeth y Beibl, pru'n ai'r meddyliau ai y geiriau yn ysbrydoledig; cyfran o ryw bennod ar dro arall. Fymryn yn dynn ydoedd o ran ei ardymer naturiol, ac heb nemor humour, mae'n debyg, ac oherwydd y tyndra hwnnw heb fedru disgyn ar y geiriau cyfaddas bob amser, yn enwedig gyda dieithriaid. Yr oedd arlunydd unwaith yn tynnu llun muriau