y cyffroad hwnnw fe fyddai ar brydiau yn nerthol yn ei gyflawniadau cyhoeddus, a bu felly yn achlysurol ar hyd ei oes, canys fe dynnai ei adnoddau dirgelaidd o ffynonnau iachawdwriaeth. Analluogwyd ef ar gyfer gwaith cyhoeddus dros y pedair blynedd diweddaf o'i oes. Rywbryd o flaen y cyfnod hwnnw fe ddarllenai yn barhaus Spurgeon ar y Salmau gyda blas mawr, a'r pryd hynny fe ddarllenai Salm ferr yn gyhoeddus, yn arafaidd iawn, ond gyda dylanwad trydanol, cofiadwy. Y pnawn Sul olaf iddo ar y ddaear, cododd ei law, gwenodd, a thorrodd i ganu oreu a allai,-Amser cannu, diwrnod nithio, Eto'n dawel heb ddim braw. (Drysorfa, 1881, t. 273 ac ymlaen.) Yn 1878 talwyd am railings o flaen y capel, paentio, cyfnewidiadau yn y vestry, £367 1s. 11g. Yn 1879 prynwyd hen dai yn Glan y môr am £300 gydag amcan i adeiladu ysgol yno. Mehefin 4, 1907, cauwyd y tai. Rhowd, hefyd, y colofnau sydd o flaen y capel yn 1879, a rhowd i lawr beipiau i'w dwymno. Bu'r treuliau yn y ffordd o atgyweirio'r capel yn ystod 1876-90 yn £1,400 o gwbl. Nid oedd dyled yn 1890 ar y capel ei hunan. Yn 1891 penderfynwyd cael ysgoldy yng nghefn y capel ac organ. Tra'n adeiladu, buwyd yn cynnal gwasanaeth yn y Victoria Hall. Dychwelwyd i'r capel, Chwefror 29, 1892, pryd y cafwyd gwasanaeth yr organ am y tro cyntaf yn y seiat, a drowyd ar y pryd yn gyfarfod gweddi. Agorwyd y capel y Sul cyntaf o Fawrth, pryd y gwasanaethodd W. Jones Treforris, ac yn y pnawn Dr. Herber Evans. Yr oedd traul y gwaith i gyd yn £4,460, yr organ yn unig yn £1,217. Rhowd chwanegiadau ati ar ol hynny a wnelai'r draul i gyd yn £1,400. Wrth godi'r ysgoldy dilewyd yr hen dai o dani, a rhowd warehouses yn eu lle. Cyfrannwyd at y draul, £1,625; ac yr oedd elw bazaar 1895 yn £1,201. Y ddyled yn 1900 ar yr holl adeiladau, £1,942. 175. 2g.
Yn nosbarth darllen y chwiorydd, gyda'r gweinidog yn athro, fe benderfynwyd gwneud cais at y Feibl Gymdeithas am argraffiad o Feibl bychan gyda chyfeiriadau. Erbyn 1881 fe gyhoeddwyd gan y Gymdeithas y Beibl Cymraeg, diamond 24 mo., gyda chyfeiriadau, yn ateb uniongyrchol i'r cais. Yr oedd traul yr argraffiad i'r Feibl Gymdeithas yn £1,200.
Daeth William Evans yma o Frynrodyn, wedi dechre pregethu yno yn 1879. Gwnaeth waith fel cenhadwr trefol yma,