lais. . . ." (Cerddor, 1907, Mai.) Dilynwyd William Griffith gan Mr. Ben Jones yn 1891. Cyflwynwyd anrheg iddo, fel gwerthfawrogiad o'i lafur, Ebrill, 1898. Yn absenoldeb y prif arweinyddion, y mae Mr. Henry Owen, ers llawer blwyddyn, yn arwain yng nghyfarfodydd canol yr wythnos. Arweinir gyda'r organ er y cychwyn gan Mr. Orwig Williams. Y mae Moriah wedi cyflawn ateb i'r llinell:
Capel mawr enwog a chanu lluosog.
Bu amrywiol ymdrechion yn cael eu gwneud o bryd i bryd i ennill pobl yn wrandawyr, neu'n aelodau o'r ysgol. Ymwelid hefyd â chleifion yr un pryd. Y mae cyfeiriad wedi ei wneud dro neu ddau at ymdrechion felly. Bu lliaws ohonynt. Bu'r Parch. Thomas Hughes a Mr. Morris Roberts ar un tro yn myned gyda'i gilydd, ac elai eraill yn ddau a dau. Parhaodd hynny am fisoedd, a bu'n foddion adeiladaeth yr eglwys. Dro arall, pan y rhannwyd y dref yn ddosbarthiadau, elai merch ieuanc a gwraig mewn oed gyda'i gilydd i bob dosbarth. Mewn eglwys o'r fath faint, ynghanol tref bwysig, y mae lliaws o bobl o bryd i bryd, yn bobl o gryn ragoriaethau, yn wyr a gwragedd, wedi bod yn aros am ysbeidiau o amser, ysbeidiau byrion weithiau a meithion weithiau eraill, ac eto heb ddod i amlygrwydd neilltuol yma. Bu yma rai felly mewn cysylltiad â'r wasg, neu'n athrawon ysgol, neu gyda gorchwylion eraill. Buasai'r cyfryw mewn eglwysi llai, ac ynghanol gwlad, yn llenwi lle mwy yn llygaid pawb, ac yn fynych yn cael eu tynnu allan i wasanaeth mwy amlwg. Wrth sylwi ar rai o gymeriadau'r eglwys, gan hynny, rhaid myned heibio i liaws o'r cyfryw. Ac hyd yn oed ymhlith y rhai fu'n fwy amlwg yma, nis gellir ond disgyn megys drwy ddamwain ar rai ohonynt fel esamplau o'r lleill. Tad y Dr. Griffith Parry oedd Edmund Parry, ac fel hyn y traetha efe am dano: "Ni bu erioed briod a thad mwy serchog a gofalus. Yr oedd efe yn wr o synnwyr cryf, meddwl craff, yn perchen llawer o wybodaeth ysgrythyrol, ac yn meddu ar fwy o ddawn na'r cyffredin i ddweyd ei feddwl yn eglur ac effeithiol. Meddai hefyd wythïen wreiddiol iawn o arabedd ac humour. Cyfrifid ei gymdeithas ... yn hynod o ddiddan . . . . ac adeiladol. . . . Byddai ei sylwadau ar neilltuolion ambell i gymeriad yn hynod wreiddiol a difyrus. . . . A gallaf dystio na welais neb erioed o ysbryd mwy