Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/129

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chymdeithas ei ddioddefiadau ef.' Yr oedd yn byw ar ei ben ei hun, a bu farw heb i neb ei weled; ond fe allwn fod yn sicr fod Un yno." Dyma atgofion Mr. Morris Roberts: "Nid oedd Griffith Pritchard o Leyn yn llawn mesur ym mhob ystyr, ac ymddanghosai fel heb lewyrch arno. Gwerthai'r Herald nos Wener, a byddai'r hogiau yn tynnu yn ei gôt wrth fyned heibio. Ond wrth gymeryd rhan yn y cyfarfod gweddi yr oedd yn ddyn arall. Nid Griffith Pritchard, hawker yr Herald Cymraeg ydoedd y pryd hwnnw, ond rhywun arall o rywle. Teimlid yn ei weddi y cymundeb agosaf â'r Arglwydd. Rhoe y llinell gyntaf o'r pennill allan dan dynnu ei law dros ei wyneb, a gwnelai'r un peth drwy'r pennill bob yn ail llinell. Ei hoff bennill:

Baban bach anwyd draw
Ym Methlem Juda,
Aeth a'm mywyd yn ei law
Tua chartref;
Dyma bilot eglwys Dduw
Ar y tonna',
Dyma'r gwr a'm ceidw'n fyw
Haleluia!

Evan Jones, saer maen, oedd tad Ioan Glan Menai. Byddai'r fath afael ganddo mewn gweddi weithiau, a'r fath arddeliad, fel y torrai allan i ofyn am i'w Dad Nefol atal ei law, a pheidio datguddio gormod. Par, O Arglwydd! ein bod afael yngafael â threfn iachawdwriaeth: y drefn yngafael â ni, a ninnau yngafael â'r drefn.' Cofiai am yr hen genedl: Nis gallwn. fyned i unman ar wyneb daear na welwn yr hen Iddew a'i fox bach ar ei gefn.' John Evans Rhos bodrual oedd hen gymeriad Cymreig tarawiadol. Fe godai ar ei draed i ddweyd ei brofiad, gan bwyso ar ei ffon. Ei nodwedd ef ydoedd, y byddai bob amser wedi bod yn ymgodymu âg adnodau dyrus, megys honno. Os dy lygad a'th rwystra. Wedi traethu arnynt ei hunan, fe fyddai eisieu chwaneg o oleu arnynt." Evan, mab Mr. Lloyd, a fu farw Awst 5, 1851, yn 22 oed. Ceir ar garreg ei fedd:

Evan Lloyd oedd fwyn ei lef—yn nawn cân,
Pan yn y corff gartref;
Byw ei raslon bôr oslef
O'n mysg ni yn miwsig nef.—(Eben Fardd.)