Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/133

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynny mewn gwth o oedran. Yr oedd yn wraig dduwiol iawn, o feddwl cryf, o wybodaeth ysgrythyrol helaeth, ac o deimladau crefyddol bywiog iawn. Yr wyf yn cofio Owen Thomas yn pregethu ar fawr amryw ddoethineb Duw, a hithau, er mewn gwth o oedran, yn torri allan dros y capel mewn ysbryd gorfoleddus. Un o stamp Ann Griffiths yr emynyddes oedd hon." Y mae'r Dr. Griffith Parry, mewn sylwadau coffadwriaethol am Owen Thomas, yn gwneud cyfeiriad at yr un oedfa. Dywed fod gan Owen Thomas, yn ystod y blynyddoedd cyntaf wedi ei ddychweliad o Edinburgh, gyfres o bregethau o rymuster a disgleirdeb meddyliol y tuhwnt feallai i'r un adeg wedi hynny. El ymlaen: "Cofus gennym ei glywed y pryd hwn yng nghapel Moriah, Caernarvon, ar fore Saboth, ar y testyn, Fel y byddai yr awron yn hysbys i'r tywysogaethau ac i'r awdurdodau, yn y nefolion leoedd, drwy yr eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw.' Yr oedd y bregeth hon yn llawn o newydd-deb a disgleirdeb, a gogoniant trefn iachawdwriaeth yn tywynnu i'r golwg trwyddi y bore hwnnw, fel yr ydym yn credu, yng ngoleuni Ysbryd Duw. Cofiwn yn dda fod un peth hynod wedi digwydd yn yr oedfa. Yr oedd Mrs. Richardson yn y capel . . . . gwraig bwyllog, ddeallus a chrefyddol iawn. Ni byddai yn arfer gwaeddi allan [erbyn hynny], ond torrodd y fath oleuni ar ei meddwl wrth wrando y bore hwnnw, fel nas gallai ymatal rhag torri allan i foliannu. Ac yr oedd hyn oddiwrth wraig o'i duwioldeb diamheuol hi, ac ar yr un pryd un mor goeth a boneddigaidd, yn effeithio yn hynod ar y gynulleidfa fawr drwyddi." (Drysorfa, 1891, t. 324.) Bu Hugh Hughes yr arlunydd yn trigiannu am ysbaid yng Nghaernarvon, ac yr oedd ei wraig yn ferch i Charles o Gaerfyrddin. Ae ef i gapel Pen- dref yn amser Caledfryn. Deuai hi i Foriah, ar brydiau o leiaf, os nad yn gyson. Yr ydoedd yn arfer ganddi fyned ar ei gliniau yn y sêt wrth ddod i mewn i'r gwasanaeth, a byddai ei holl agwedd a'i dull yn y gwasanaeth yn ennyn parchedigaeth. Brodores o blwyf Llanbeblig oedd Margaret, priod John Hughes y crydd, a chwaer Jinny Thomas (Engedi). Dwy chwaer hynod. Yng ngwasanaeth William Williams Hafod y rhisgl, daeth dan ddylanwad diwygiad Beddgelert, a phan yn cadw tŷ capel Carneddi daeth dan ddylanwad diwygiad 1830-2. Yr oedd yn nodedig yn ei llafur gyda'r ysgol Sul, a chyda dirwest. Yr ydoedd yn un o'r rhai cyntaf i ymuno â dirwest, a byddai'n cadw