cyfarfod dirwestol yn ei thŷ i egwyddori bechgyn ieuainc per- thynol i'r gymdeithas ddirwestol. Pan sefydlwyd cymdeithas mamau a merched ieuainc yng Nghaernarvon yn 1838, yr ydoedd hi yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw. Ystyrrid ei bod yn feddiannol ar ddoniau helaeth, ac yr oedd ei theimladau yn fywiog gyda chrefydd. Bu am dymor maith yn cynnal cyfarfodydd gyda merched ieuainc am ddau o'r gloch pnawn Mercher, i'r amcan o rybuddio a chynghori. Unwaith, mewn oedfa neilltuol i Owen Thomas ym Moriah, ebe Mrs. Jane Owen Stryd Garnons, fe adroddodd y llinellau
Fy nhelyn fach mi gana'n awr,
Nes caf fi ganu nhelyn fawr.
Ar hynny fe dorrodd yn orfoledd ymhlith y chwiorydd, ac adroddai ac ail-adroddai Margaret Hughes y geiriau. Dan lawn hwyl yr aeth i mewn i'r Porthladdoedd Prydferth, gyda mynegiad hiraethlon, Y mae arnaf chwant i'm datod, a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw. (Drysorfa, 1842, t. II.) Gwraig John Rowlands y blaenor oedd Sian Parry, ac un hynod am hwyliau gorfoleddus. Bu bron neidio dros ymyl y galeri mewn perlewygfeydd ysbrydol, wrth wrando Robert Roberts Clynnog ac Evan Richardson, yn ol W. P. Williams. Merch ieuengaf Evan Richardson oedd Anna, a fu farw, Mawrth 29, 1846, yn 29 oed. Dyma sylw Dafydd Williams, y pregethwr, arni: "Bu'r ferch ieuanc dduwiol a phrydferth hon farw yn hynod anisgwyliadwy. Braidd nad oeddym yn meddwl fod angeu wedi camgymeryd ei wrthrych. Ciliodd o'r golwg pan nad ydoedd ond yn dechre pelydru. Bu fyw dan lygad gwyliadwrus mam dduwiol, a bu farw yno hefyd. Collodd ei hanwyl fam blentyn hoff ac ymgeledd gymwys yn ei hen ddyddiau. Ond yn y tro chwerw hwn eto, da iddi fod gwr yn ymguddfa.
Cyd-byncio mae â'i hanwyl dad,
Mewn nefol wlad "
Ann Owen oedd mam Eryron Gwyllt Walia, ac yr oedd Dafydd Jones y cwper yn ail wr iddi. Bu farw Chwefror 25, 1835, yn 60 oed. Dyma fel y dywed y Dr. Griffith Parry am dani: "Yr oedd yn wraig o ragoriaethau anghyffredin, a nerth mawr yn perthyn i'w chymeriad. Yr ydoedd yn hynod am ei duwioldeb. Ac yr oedd yn llawn mor hynod am nerth ei synnwyr, am ei