o hunanfeddiant a phwyll. . . . Yr oedd y ddyledswydd yn great fact yn ei deulu ef; ac er y mynych ymarfer â hi, byddai bob amser ryw freshness a newydd-deb ar y gwasanaeth, a chedwid y fath urddas a mawredd ar yr amgylchiad na welir yn aml ei gyffelyb. Nid ydym yn cofio,' meddai'r Parch. R. Hughes Gaerwen, gweled crefydd deuluaidd yn ei holl gysylltiadau wedi ei dyrchafu i raddau uwch nag yn nheulu Mr. a Mrs. Williams.'"
Fel rhyw gymaint o gadarnhad i'r sylwadau ar gyflwr yr achos ac ar ddylanwad Williams Glanbeuno ar y lle, cymerer y cyfrifon yma o dafleni'r Cyfarfod Misol: Rhif yr eglwys yn 1853, 95; y ddyled, £330; pris eisteddle, o 6ch. i 9c.; casgl y weinidogaeth, dim cyfrif. Rhif yr eglwys yn 1856, 100; y ddyled, £228 5s.; casgl y weinidogaeth, £25. Rhif yn 1858, 103; y ddyled, £190; y casgl at y weinidogaeth, £23. Rhif yn 1860, 151; y ddyled, £150; y casgl at y weinidogaeth, £34 4s. Rhif yn 1862, 173; y ddyled, £100; casgl at y weinidogaeth, £31 10s.
Yn 1864 symudodd y Parch. Dafydd Morris oddiyma i Gaeathro, wedi bod yma am saith mlynedd. Ei gartref yma ydoedd Plas Llanwnda. Parhae i ddod yma i gadw'r seiat o Gaeathro hyd nes y cafwyd bugail yma. Gwerthfawrogid ei lafur yma fel mewn mannau eraill. Yn 1865 fe dderbyniwyd yn flaenoriaid yn y Cyfarfod Misol: Thomas Owens, Griffith Roberts, Thomas Roberts. Tebyg mai yn y flwyddyn flaenorol y dewiswyd hwy gan yr eglwys, gan y nodir y flwyddyn honno fel blwyddyn etholiad Griffith Roberts yn Ystadegau 1893.
Yn 1866 symudodd y Parch. David Davies yr exciseman oddiyma i Bentrefelin ger Tremadoc. Bu ef a Dafydd Morris yma gyda'i gilydd am rai blynyddoedd, a dywedir eu bod yn cydweithio'n ddymunol a'i gilydd. "Dyn da, pwyllog, arafaidd," ebe Mr. Francis Roberts, "a phregethwr da a hoffus gan bawb; a gadawodd argraff ddymunol ar y gymdogaeth fel gwr Duw mewn modd amlwg." Sylwa Mr. William Williams. y Groeslon, Waenfawr, fod ganddo feddyliau cofiadwy ym mhob pregeth, a bod teimlad toddedig yn nhôn ei lais, a chwanegai yn fawr at ei effeithiolrwydd. A dywed ef nad oedd tuedd ynddo i wthio ei hun i sylw, ac yr arferai ddweyd,—"Yr ydwyf fi yn cael cymaint o barch ag yr wyf fi yn ei haeddu."