y byddai hen gyfeillion iddo, pobl wedi dod dan ddylanwad y diwygiad, yn dod i Sasiwn Caernarvon yn 1818. Yn ei awydd i'w gweled, fe aeth drwy'r Bontnewydd i Gaeathro, ac yna ymlaen yn araf i'w cyfarfod. Yr oeddynt hwythau yn dod yn finteioedd gyda'i gilydd, ac wedi bod yn cynnal cyfarfod gweddi ar y gwastadedd ar y ffordd fawr ar gyfer Tyddyn wiscin, ac yn cerdded gan foliannu, fel tyrfa yn cadw gŵyl. Wrth eu clywed fe deimlai'r hen ymladdwr ei waed yn berwi yn ei wythiennau, a'i gynnwrf mewnol oedd yn gyfryw nas gallai roi syniad i eraill am dano. Aeth ymlaen i'w canol, a thorrodd allan mewn moliant gyda hwy. Fe gedwid tollborth Glangwna y pryd hwnnw gan Richard Thomas y gwehydd. Fel yr oedd y dorf yn myned drwy'r dollborth, wele Richard Thomas yn dodi ei wenol heibio, yn ymuno â'r dorf, ac yn moliannu gyda'r lleill yr holl ffordd i'r dref. Bu Richard Thomas wedi hynny yn flaenor yma hyd ddiwedd ei oes. (Cofiant Eryron Gwyllt Walia, t. 21.)
Fe raddol gynyddai'r cyfarfodydd gweddi, er y dywedir na ddeuai neb iddynt ond proffeswyr crefydd; a dechreuwyd teimlo awydd am gapel neu ysgoldy. Dichon fod cynnydd yn yr ysgol hefyd. Penodwyd, gan hynny, Humphrey Llwyd i ymofyn a Thomas Lloyd, yswain Glangwna, am le i adeiladu. A thrwy gyfryngiad Rumsey Williams, yswain Penrhos, fe ganiatawyd tir, ar yr amod mai ysgoldy yn unig fyddai, a'i fod yng nghwrr pellaf y stad fel y byddai o olwg y palas, a bod £1 y flwyddyn o rent arno. Yr oedd yr amod mai ysgoldy fyddai yn cynnwys nad oedd pregethu i fod ynddo. Pan ddeallodd Rumsey Williams yr heliwr nerthol fod yr amod hon yn gysylltiedig a'r tir fe ymyrrodd drachefn. "Faint waeth a fyddai," ebe fe, "pe caent ambell bregeth ynddo." A hynny a orfu.
Yr oedd y bobl yn ewyllysgar i weithio; a gwnaeth pawb eu rhan, y ffermwyr yn cario yn rhad. Dywed Cathrine Jones ddarfod adeiladu'r capel "60 mlynedd yn ol," sef yn 1823. Yr ydoedd yn werth £400, ond ni wyddis a gyfrifir y gwaith a wnawd yn rhad yn y gwerth. Os na chyfrifir y gwaith hwnnw, fe ymddengys y swm yn fawr am gapel bychan ac heb brynnu'r tir. Bu dyled arno am ysbaid maith. Penderfynwyd cael cynllun i symud y ddyled: ffurfiwyd cymdeithas a chyfrannai pob aelod swm penodol bob mis. Ac yna ni bu'r ddyled mor hir