Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/169

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth yma yn ei amser ef, a dug efe'r nodwedd werinol i fewn iddi. Fe ystyrrid ei ddylanwad ef yn un iachus gan gorff y gynulleidfa. Fe lwyddodd ef i gael yr eglwys i roi ei llais mewn symudiadau o bwys. Cychwynnodd ddosbarth Beiblaidd yma ganol wythnos. Natur fywiog, aiddgar oedd yr eiddo ef. Fe ymserchai mewn gwaith, Yr ydoedd yn ddyn a chraffter yn ei feddwl: craff ei ddirnadaeth o bwnc a chraff ei adnabyddiaeth o ddynion. Fe ddarllenodd yn lled helaeth; a rhwng ei ysbryd gweithio a'i ddeall mewn pynciau diwinyddol, yr ydoedd yn wr defnyddiol yn yr eglwys, a bu colled ar ei ol yn y lle.

Ionawr 30, 1885, bu farw Owen Williams yn 85 oed. Daeth yma o'r Bontnewydd yn 1868, lle bu'n flaenor am 43 blynedd. Bu'n flaenor yma, drachefn, am 17 flynedd. Yn y coffhâd am dano yn y Cyfarfod misol fe sylwid mai efe, yn debygol, oedd yr hynaf yn ei swydd o flaenoriaid Arfon, ac iddo fod yn ffyddlon a selog yn ei swydd. Mae pob lle i gredu iddo fod felly ar hyd ei dymor maith, megys yr oedd yn amlwg felly yn ei flynyddoedd olaf i gyd. Yn hen wr dros 80 oed fe ddeuai i'r moddion ganol wythnos drwy bob tywydd braidd: diau y daethai drwy bob tywydd pe caniatesid hynny iddo. Gan ei fod yn trigiannu yma gyda'i fab ynghyfraith, Hugh Williams Tyddyn bach, yr ydoedd dan y ddeddf yno yn y cyfryw bethau. Yr ydoedd yn hen wr siriol, agored, difeddwl-ddrwg; ac ar yr un pryd yn meddu ar synnwyr a chraffter, a deall da yn yr ysgrythyrau ac mewn pynciau diwinyddol. Fel siaradwr yr oedd yn rhydd a rhwydd. Ei ddiffyg yn ei hen ddyddiau, ac i fesur nid hwyrach, mewn dyddiau boreuach, oedd symud o'r naill fater i'r llall, yn lle gorffen gyda rhyw un mater. Ar ol traethu am hanner awr, fe dynnai ei fab ynghyfraith yng nghwt ei gôt, ac eisteddai yntau i lawr yn y fan. Eithr ni byddai fyth yn fyrr o sylwedd a phrofiad.

Yn 1884 yr oedd ————— Bryan wedi dod yma o sir Fflint, a galwyd ef yn flaenor. Bu farw mis Mawrth, 1886. Yr ydoedd ef yn wr ardderchog o ran dirnadaeth, gwybodaeth a phrofiad crefyddol. Heblaw bod yn ffyddlon iawn, yr ydoedd hefyd yn fanwl iawn ei ffordd gyda phob gwasanaeth, fel ag i beri ei fod yn dra defnyddiol yn yr eglwys yma dros ei dymor byrr yn y lle. Meibion iddo ef yw'r Meistri Bryan o'r Aifft a Chaernarvon.