ac ni roddai atalfa chwaith. Danghosai gryn synnwyr yn ei ddull o drin dynion, ac yr oedd ei deimladrwydd a'i dynerwch naturiol yn help iddo. Ond er bod yn dyner medrai fod yn frathog hefyd; a medrai fod yn frathog mewn dull chwareus, fel mai anfynych, debygir, y briwiai neu y digiai neb. Ond er rhagori ar Hugh Williams o ran rhyw fedr mewn trin dynion, ac o ran dull teimladol, eto Hugh Williams, debygir, oedd y mwyaf cymwynasgar a charedig fel cymydog a chyfaill. Dywedai Anthropos am dano ar ddiwrnod dadleniad ei gofadail ei fod yn hoff o flodau, a hawdd credu hynny. Ei deimladrwydd oedd sail ei ddawn fel canwr ac fel cyfansoddwr. Yn ffurf y wyneb a'r talcen, cystal ag yn nheimladrwydd ei ddull, fe ddygai debygrwydd i wyr o dalent neilltuol mewn gwahanol ganghennau. Nid wyneb a dull y gweithredydd oedd ganddo, ond wyneb a dull y mynegydd. A llwyddodd yn ei donau i roi mynegiant arhosol i ryw wedd ar deimlad crefyddol. Yr un nodwedd oedd yn ei ddull fel arweinydd y gân. Yr hen ddull iraidd, teimladol, oedd ei ddull ef. Yn niffygiol mewn urddas a mawreddusrwydd yr oedd yn gyforiog o deimlad nwyfus. Ac yn hynny yr oedd canu Caeathro yn ei amser ef ar ei ben ei hun. Yn nyddiau y sel mawr gyda dirwest, yr oedd ei anthemau dirwestol yn dra phoblogaidd. Yr oedd yr achos dirwestol yng Nghymru y pryd hwnnw mor ddyledus iddo ef ag i neb pwy bynnag, o fewn cylch Arfon o leiaf. Y pryd hwnnw yr ydoedd yn ei anterth, a'i ddull yn llawn swyn a hoewder naturioldeb. Gwerthfawrogid canu ei gor ef gan Eben Fardd yn nyddiau ei gyfarfodydd llenyddol yng Nghlynnog. (Edrycher Ebenezer, Clynnog). Yr oedd gwrthwynebrwydd rhyngddo ef ac Ieuan Gwyllt. Ei syniad ef ydoedd fod Ieuan Gwyllt yn colli natur mewn celfyddyd, ac yn colli'r arddull Gymreig yn yr Ellmynnig. Yr oedd ei lewyrch mwyaf ef yng nghanolddydd bywyd. (Goleuad, 1893, Awst 4, t. 6.)
Yn 1893 dewiswyd yn flaenoriaid, William Jones Llwyn celyn a Richard Williams garddwr. Yn 1897 fe ddarfu J. Hugh Jones Tyddyn wiscin ymddiswyddo. Yn 1898 dewiswyd yn flaenoriaid, John Jones Bodrual, Robert Lloyd Owen, David Jones Frondeg.
Y Sul cyntaf yn Awst, 1893, cychwynnodd Robert Williams Nant Gwrtheyrn ar ei waith yma fel bugail. Yn haf 1898 fe