Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/193

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gethu o hynny ymlaen. Yr ydoedd yn wr tal, yn chwe troedfedd feallai o uchter, ac yn gymesur. Wedi ei weu ynghyd gan natur ar ddull rhydd, rhwydd, ar gynllun eang, llawn, o ran corff a meddwl a chymeriad. Yn fachgen ieuanc fe roddai argraff braidd o ddiniweidrwydd; ond gyda phrofiad o'r byd fe dynnodd ei hun i fewn yn fwy iddo'i hun, er y bu ar hyd ei oes yn agored yn achlysurol i adael i ambell sylw go anwyliadwrus lithro dros ymyl y wefus. Heb daflu allan ymhell, fe nofiai'r llygaid yn rhydd ar dorr y croen, gan ymsefydlu beth pan gyffroid ef ryw gymaint gan ddywediad neu gymhariaeth. Yr oedd y genau yn pontio yn o uchel ar y canol, ac yn ymestyn yn o bell oddiyno, ail i enau Daniel Rowland Llangeitho. Dawn a thymer y siaradwr oedd yr eiddo ef. Yn wir, fe ddywedir i David Charles Davies sylwi ar ol rhyw oedfa o'r eiddo ef, na chlywodd efe mo neb yn gallu dweyd cystal, gan bwysleisio'r dweyd. Heblaw rhwyddineb esmwyth a hunan—feddiant tawel, yr oedd ganddo lais clochaidd, soniarus. Yn ei hwyliau goreu, a chyda rhyw faterion, fe fyddai ei lais yn mwyneiddio, ac fel y byddai ei ysbryd yn ymdoddi fe doddai'r lais, a delid y gynulleidfa gan rym swyn, a llifai'r dagrau oddiar lawer o ruddiau. Fel y gallesid disgwyl oddiwrth un a gyffrowyd yn amser diwygiad, fe ddisgynnai yn ei bregethau ar y materion mwyaf cyfaddas i aredig y teimladau. Yr Efengyl fel trefn rasol i achub pechaduriaid, a phechaduriaid mawr, oedd ei bwnc ef, a chymhwyso'r pwnc hwnnw drwy gymhelliadau a rhybuddion oedd ei amcan gwastadol. Fe gadwai ei hunan yn o lwyr i'r amcan yma heb egluro athrawiaeth nac ysgrythyr yn gymaint, heb olrhain llawer ar brofiadau amrywiol y saint,—er y ceid ef yn cyfleu rhai o'r profiadau mwyaf cynefin yn dra effeithiol weithiau,—ac heb gymhwyso rhyw lawer ar yr Efengyl fel trefn i buro moes, ac i ddyrchafu neu addurno cymeriad. Yr oedd ei apêl at y teimlad yn fwy na'r gydwybod. Yn y dull hwnnw fe fu'n cael ar brydiau odfeuon grymus ac effeithiol, odfeuon fyddai'n aros yn nheimlad lliaws fel rhai o bethau mwyaf cofiadwy eu hoes. Fe gafodd laweroedd o weithiau odfeuon a dylanwad mawr gyda hwy ar Manaseh, ar y Lleidr ar y Groes, ar y Ffigysbren Ddiffrwyth. Fe fu ei ddolef,—"Mi achubwyd Manaseh! Mi achubwyd Manaseh!" yn aros yng nghlustiau rhai am dymorau meithion. Yr oedd swyn yn enw John Jones Caer-