Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/203

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â gofal eglwys yr Aberffraw, wedi bod yma ychydig fisoedd, ar ol dychwelyd o Khassia.

Chwefror 10, 1886, bu farw'r Capten Evan Roberts, yn 77 oed, yn flaenor yma er 1849. Yr ydoedd wedi ei fagu yn hen gapel Penrallt. Y Capten ydoedd efe ym mhob man, yn yr eglwys yma fel ymhob man arall. Pan fyddid wedi penderfynu ymgymeryd â rhyw waith, ac y rhoid cymhelliad i'w gyflawni, fe geid ei anogiad cartrefol,—"'Rwan, boys bach, cydiwch ynddi." Byddai ganddo ar dro gymhariaeth forwrol, neu eiriau morwrol i gyfleu ei feddwl. Sonia Mr. Hugh Hughes (Beulah) am dano ynglyn â chasgl dydd diolchgarwch, yn cymharu Engedi dan ei ddyled i long ar lawr, yn aros am y spring teid, pryd y gwneid ymdrech arbennig i'w chael i ffloatio. "Yr ydan ninnau ar lawr—gadewch i ni wneud un effort gyda'n gilydd." Byddai yn ennill ei bwnc gyda'i symledd, ei gywirdeb, ei naturioldeb. Eithr talent i weithio gyda'r achos oedd ganddo ef, ac nid talent i siarad. Ac er iddo gyrraedd safle uchel fel capten, ac ennill ymddiried mawr, eto yn eglwys Engedi yr oedd ei galon. Llong marsiandwr y nef oedd Engedi iddo ef, a bu'n loyal i commands y Pen Capten.

Mawrth 10, 1886, bu farw John Edmunds yn 71 oed, ac yn flaenor yma er 1868, flwyddyn ar ol dod ohono i'r dref, ac yn Nhwrgwyn, Bangor, er 1855. Gwrthod ymgymeryd â'r swydd a ddarfu yn Engedi heb ei ddewis drwy bleidlais yr eglwys. Brodor o Dyddewi, Penfro, ydoedd, a dawn nodweddiadol Penfro oedd yr eiddo. Efe a John Jones yn eu tymor oedd y ddau flaenor amlwg yma, a rhoddai hynny rywbeth o naws y Deheudir ar Engedi yn y cyfnod hwnnw. Ceid rhai o bregethwyr y Deheudir, neu rai a fagwyd yn y Deheudir, yn amlach o'r herwydd, megys oeddynt hwy, Richard Lumley, Phillips Abertawe, (Dr.) Thomas Rees, David Charles Davies, Dr. Lewis Edwards, a lliaws eraill. Haws oedd cael y Dr. a enwyd ddiweddaf i Engedi nag i Foriah. Bu'r Parch. Morris Morgan a Homo Ddu (Wyndham Lewis) yn dod yma ac i Foriah am ddau Sul gyda'i gilydd am rai blynyddoedd, a mawr y gwerthfawrogid eu doniau amrywiol gan y ddau flaenor yn Engedi, cystal ag eraill. Ysgolfeistr oedd John Edmunds, ond daeth i Gaernarvon fel melinydd. Yr oedd naws yr ysgolfeistr ynddo o hyd, eithr nid mewn natur grebach y digwyddodd hynny gydag ef, ond mewn natur eang,