Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/208

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu William Williams farw Tachwedd 12, 1896, yn 59 oed, wedi bod yn pregethu er Mai, 1865. Mae ei enw i lawr yn llyfr cofnodion y Cyfarfod Misol, ymhlith y gwyr ieuainc oedd yn y Bala (yng ngholeg Bangor y bu ef), a gelwir ef yn William Williams Caernarvon. Tebyg, gan hynny, mai yn 1865 y daeth yma o Lanberis, a rhaid mai yno y dechreuodd bregethu. Ysgolfeistr ydoedd yno, ac yn 1866 yr oedd yn ail-feistr yn ysgol ramadegol John Evans, M.A., wedi hynny o Groesoswallt. Fel ysgolfeistr yr oedd yn dyner a gofalus, gyda gwên dyner ar ei wyneb pan wneid camgymeriadau go ddigrifol gan y bechgynnos dan ei ofal. Ar ol hynny gweithredai fel clarc. Ni pherthynai iddo mo ddull nodweddiadol yr ysgolfeistr, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb, a cheid ef bob amser yn wr tyner, yn hytrach yn encilgar, heb wneud yr ymddanghosiad lleiaf o hynny chwaith, ac heb amcanu at y gradd lleiaf o awdurdod dull. Ond er yn wr tawel, diymhongar, nid elai neb fyth yn hyf arno. Nid ymyrrai à mater neb, a thebyg na chymerodd neb arno ymyrryd â'i fater yntau. Yr oedd gradd o ddirgelwch ynddo yn hynny: yn gwbl ddiymhongar a thawel a thyner a pharod i ymwrando â phawb, yr oedd o'i ddeutu yr un pryd ryw awyrgylch a'i diogelai rhag tramgwydd oddiwrth yr hyf a'r gor-siaradus. Feallai, wedi'r cwbl, mai naws yr ysgolfeistr ydoedd hynny ynddo. Gwr dan yr uchter cyffredin ond yn fwy o gwmpas na chyffredin, gyda wyneb llawn, cymesur, tawel-feddylgar. Ni lywodraethid mono gan dymerau ac anwydau, ac ni welid ynddo fympwyon na nwythigrwydd. Gwr gwastad ydoedd: cerddai yn wastad, mewn llinell union, nid fyth yn gyflym, nid fyth yn araf, oddigerth fel yr arafodd yn ei flynyddoedd olaf. Ni thramgwyddai fyth ar air na gweithred. Yn y seiat nid elai ef i'r llawr i ymgomio â'r cyfeillion yno; tebyg na feddyliwyd erioed am ofyn hynny iddo, neu o leiaf am bwyso hynny arno. Eithr fe siaradai pa bryd bynnag y gofynnid iddo, a gofynnid iddo yn amlach amlach fel y cerddai'r blynyddoedd; ac yn ddieithriad fe roddai ffrwyth meddwl wrth lefaru. Fe gymerai ei amser i draethu, ond ni fyddai yn rhy faith mwy nag y byddai'n rhy fyrr. Byddai'r ysglyfaeth dan ei ewin bob amser. Heb arabedd na ffansi na chrynoder diarhebion, fe olrheiniai'r pwnc yn ddeheuig, yn fanwl, yn ymresymiadol, gyda chwaeth ddifeth, ac i amcan ymarferol buddiol, er yn fwy athrawiaethol ei duedd nac ym-