Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/209

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arferol. Yn y seiat yr oedd yn siaradwr eithaf rhwydd, heb ddim yn tynnu oddiwrtho, ond yn y pulpud nid ymddanghosail mor ddilyffethair. Yno yr oedd pwys y bregeth ei hun, a phwys y gwaith, yn hytrach yn llesteirio'r rhyddid angenrheidiol i feistr y gynulleidfa. Eithr fe fyddai'r bregeth yn wastad yn gyfansoddiad gofalus, ac fel y dywedai Henry Rees am Charles o Gaerfyrddin a John Thomas Aberteifi, y gallesid dywedyd am dano yntau, sef fod ei bregethau yn ebran pur wedi eu nithio â gwyntyll ac â gogr. Bu ganddo ddosbarth meibion ganol wythnos am flynyddoedd, a dosbarth merched wedi dyfod y Parch. Evan Roberts yma, y mwyaf llwyddiannus, debygir, ar y cyfan, a fu yma unrhyw adeg. Tystia Mr. William Roberts i ragoriaeth y dosbarth meibion hefyd. Fe geid yr ymdriniaeth bob amser yn drwyadl, erbyn y byddai'r athro wedi dwyn y drafodaeth i ben; a sicrheid llwyddiant y dosbarth gan bwyll, arafwch, deheurwydd a thrylwyredd yr athro ei hun. Bu'n efrydydd diwyd ar hyd ei oes. Athroniaeth oedd ei brif faes, ac yr oedd ganddo gasgl anarferol dda o lyfrau yn y gangen honno. Darllenai lyfrau o nodwedd De Quincey mewn llenyddiaeth gyffredin.

Bu farw W. R. Jones (Goleufryn), Gorffennaf 11, 1898, yn 58 oed, wedi bod yn weinidog yma ychydig dros dair blynedd ac wyth mis. Daeth yma gydag enw fel pregethwr, ac enw mwy fel llenor. Yr oedd ei brif waith fel llenor eisoes wedi ei gyflawni. Rhoe fynegiad mynych, tra bu yma, i'w ddyhead am fod yn rhydd oddiwrth ofal eglwys, mewn rhan er mwyn ei iechyd, ac mewn rhan, debygid, er mwyn ymroi yn fwy i waith llenyddol. Yr oedd ol ei ymroddiad i lenyddiaeth yn amlwg ar ei bregethau, mewn iaith lawn, ddisgrifiadol, ac yn neheurwydd ei gyflead o'i fater. Traddodai yn rhwydd a chyflym, heb nemor bwyslais; ond fe weuai ei fater ynghyd cyn esmwythed a we pryf gop, ac â llawer o'r un cywreinrwydd. trefnus, gyda'r llygad oll-chwiliol yn syllu allan o'r ddirgelddôr. Yr un oedd ei ddawn fel llenor, ond dichon fod glud y wê yn amlach yn dal y pryfed asgellog yn yr ysgrif nag yn y bregeth. Rhoes ei fryd ar ragori fel llenor cystal ag fel pregethwr, a llwyddodd yn y ddau gyfeiriad, gan wneud y llenor yn wasanaethgar i'r pregethwr, a'r pregethwr i'r llenor. O'r ddau yr oedd yn ddiau yn fwy amlwg fel llenor. Nid oedd ei deimlad mewn pwyllgor yn gymaint dan ei reolaeth ag eiddo'i