medrus, ac athrawon â'u holl enaid yn y gwaith. Y plant lleiaf mewn ystafell ar wahân, a dysgir hwy ar gynllun yr ysgol ddyddiol. Dosbarthiadau darllen da. Canu swynol. Mantais ar yr ysgolion eraill mewn offeryn. S. R. Williams, John Hughes." "Marc Lane. Ysgol genhadol, gyda brodyr a chwiorydd o Foriah ac Engedi yn cynorthwyo, ac yn gweithio'n ddifefl. Aelodau'r ysgol o bob plaid grefyddol, a rhai heb fod o unrhyw blaid. Dros gant yn bresennol. Rhai yn darllen yn lled dda. Y dosbarthiadau eisieu eu graddoli'n well. Mwy nag arfer o'r athrawon yn absennol y Sul yr oeddem ni yma. Nid yw'r ysgol wedi mabwysiadu'r cynllun safonol, ac nid hawdd gwneud gan gyfyngdra lle. Gweithrediadau trefnus. Llafur gyda dysgu allan. Mae yma lais at Engedi a Moriah, Deuwch drosodd a chynorthwywch ni. John Owen (Nazareth), William Davies (Llanrug)."
Fel arweinwyr y gân fe enwir Richard Humphreys, Owen Griffith y cyfrwywr, Rhys Jones yr asiedydd, Cadwaladr Williams, John Jones, John Jones (Druid), Evan Jones (Beulah wedi hynny), W. J. Williams. Bu canu campus, a chôr rhagorol, yma am flynyddoedd dan arweiniad Richard Humphreys. Dywedir yng Nghofnodion y Gymdeithas Lenyddol fod y canu wedi myned yn isel ac anhrefnus yma cyn dyfodiad Robert Lewis i'r dref yn 1857 [1859], a'i fod ef wedi achosi diwygiad trwyadl ynddo, ac y magodd liaws o gerddorion medrus yn y gynulleidfa, fel yr enillodd y canu sylw cyffredinol. Sylwir, hefyd, gan Mr. David Jones y bu iddo sefydlu dosbarthiadau canu ar ganol wythnos yn 1861. El Mr. Jones ymlaen: Cychwynnodd gyda dysgu'r Hen Nodiant, ond yn y misoedd hynny daeth cyfundrefn y Sol-fa i sylw yn Lloegr, a gwelodd yntau ei symlrwydd, ac ymroddodd i'w hastudio; a buan iawn y darfu iddo ei meistroli yn y wedd oedd arni y pryd hwnnw; ac iddo ef y perthyn yr anrhydedd o ddwyn y nodiant yma i sylw gyntaf yng Ngogledd Cymru; ac yng nghapel Engedi y cymerodd hynny le yn y blynyddoedd 1861-2. Ymunodd lliaws o'r bobl ieuainc â'r dosbarthiadau. Y ddau a lwyddodd gyntaf i ennill y dystysgrif elfennol oedd John Jones, mab Owen Jones Tyddyn llwydyn, a John P. Jones, mab J. P. Jones paentiwr, a phenodwyd y ddau hyn yn is-athrawon, i ofalu am y dosbarth ieuengaf. Y rhai cyntaf mewn trefn i ennill y dystysgrif ganolradd oedd, Stephen Jones, Evan Jones, John Jones