Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/219

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daerineb neilltuol. Ei hoff erfyniad, "Achub Arglwydd, achub," a'i hoff bennill, "Rhad ras, y newydd gan bereiddia'i blas." [Byddai ei hunan weithiau yn llunio'r cerryg ar y cei dan Dwr yr Eryr. Yn rhyw fodd neu gilydd erys y fangre honno'n gysegredig: yn rhyw fodd neu gilydd erys ei ddelwedd yno o hyd—ei wyneb bochgoch, ei wên gariadusol. Ac yn y sêt fawr ar weddi fe erys gyda'i lais llon, gonest, a'i wedd ddiragrith.] Owen Thomas Henwalia yr un modd ddaeth o Foriah i Engedi ar y cychwyn, ac a barhaodd hyd y diwedd yn un o addurniadau pennaf yr eglwys. Talai'r gweithwyr eraill yn y ffowndri barch neilltuol iddo i gyd, oblegid ei grefyddolder. Gweddiwr mawr yn y dirgel ac ar gyhoedd, a mynych y tynnodd y nefoedd i lawr yn y cyfarfod gweddi. [Gwên fewnol yn tywynnu allan o'i wynepryd. Dawn mewn gweddi, er fod ganddo ryw ddull gwneud o leisio perthynol i liaws ar un cyfnod.] Ellis Jones Heol y capel oedd un o'r cymeriadau goreu fagwyd yng Nghaernarvon. Ei fam, Catherine Jones, yn un o'r rhai ddaeth gyntaf o Foriah yma. Yn ieuanc fe'i penodwyd yn is—olygydd dan Ieuan Gwyllt i'r Amseroedd. Bu farw yn Rhydychen, Rhagfyr 12, 1891, yn 55 oed. [Llais merch. Yn adeg rhyw helynt fe ddanfonwyd Robert Ellis Ysgoldy yma. Cododd Ellis Jones ar ei draed o rywle yn y cefn, dan ddechre bwrw allan ei hyawdledd main. Neidiodd Robert Ellis ar ei draed, a chan daflu ei law yng nghyfeiriad y llefarwr, torrodd allan, "Tawed y gwragedd yn yr eglwysi." Er fod llais Ellis Jones yn fain, yr oedd ei ddull yn hyawdl. Gwr o argyhoeddiadau pendant a dirwestwr pybyr.] Chwanega Mr. David Jones, ar ymddiddan, am Thomas Williams y saer a ddanfonid i Gorris gyda'i waith, ac a gymerai (y Parch.) Griffith Ellis gydag ef i areithio ar Ddirwest, pan yr ydoedd yn anhysbys i'r byd. Ac am Llewelyn Edmunds, mab John Edmunds, a droes allan yn ddyn da, yn ddechreuwr canu yn Wilton Square, Llundain, ac yn arweinydd a cherddor medrus. Dyma sylwadau Mr. John Jones ar ddau hen gymeriad. "Thomas Williams, taid y Capten Richard Jones, [porthor y tloty] oedd y goreu o ddigon am ergyd lân. Pan fyddai rhywun, tlawd neu gyfoethog yr un wedd, yn lledu ei adenydd. ar y mwyaf, ac yn hofran yn uwch nag a fyddai'n ddiogel iddo, rhoddai yr hen frawd small bore neisia welsochi erioed o dan ei aden, a bull's eye bob tro, nes ei gael i lawr yn ddiogel.