Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/230

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynefin â'i gwrando, a hynny gyda theimlad yn nhôn y llais.. Dywedir ei fod yn gymeradwy gan y bobl eu hunain: gwneid yn fawr ohono gan Sipsiwn a Gwyddelod. Un tro, pan yn siarad allan dan wlithlaw fe ddaeth dyn o gymeriad go ryfygus. ymlaen gydag ambarelo i'w dal drosto. Fe debygir iddo roi sylfaen i lawr i fesur o gynnydd dilynol yr egiwys yn ei waith yn cynefino meddyliau'r bobl â'r Efengyl, o ran ei hathrawiaeth a'i hysbryd. Y nos Lun olaf y bu ar y ddaear yr oedd yn holi'r plant yn y seiat ar ddameg y Mab Afradlon. "I ba wlad yr aeth o, mhlant i?" "I'r wlad bell." "Nid aeth o ddim i'r wlad bellaf, ai do?" "Naddo." "Naddo, o drugaredd." Ar hynny, fe ddywedai fod rhywbeth yn myned dros ei galon, ac yr ydoedd yn union wedi ehedeg ymaith. Rhoes. Henry Edwards fynegiad i'w deimlad fod nef a daear yn agos. iawn i'w gilydd y funud honno. Fe'i rhoid yn lled aml i ddechreu'r oedfa o flaen pregethwr dieithr ar ganol wythnos. Un emyn heb fod yn faith a roddai efe allan i'w ganu, a chyda gwers ferr o'r ysgrythyr a gweddi ferr, wresog, fe fyddai'r gwasanaeth agoriadol drosodd mewn deg neu ddeuddeng munud, a hynny heb unrhyw arwydd yn y byd o frys. Mewn sylw coffa arno yn y Cyfarfod Misol, fe sylwai'r Parch. Evan Roberts nad oedd neb yn y dref mwy cymeradwy nag ef yn hynny o wasanaeth.

Hydref, 1881, fe ymsefydlodd Mr. R. R. Morris Rhyd-ddu yma fel bugail yr eglwys. Daeth Anthropos yma tua'r un pryd o Gorwen, ac arhosodd yma hyd nes y derbyniodd alwad yn 1890 oddiwrth eglwys Beulah.

Bu farw John Owen, Hydref 2, 1882, yn 55 oed, ac wedi bod yn flaenor yma am 12 mlynedd. Daeth yma o Foriah, ac yr oedd yn aelod o'r eglwys agos o'r dechre. Bu'n arwain y canu yma am rai blynyddoedd yn ei dro. Gwr llawn o gorff, glandeg a serchog yr olwg arno, yn ysgwyd llaw mewn dulf cynhesol a chofiadwy, a hynny heb orwneud y peth. Calonogol ei ddull gyda phregethwr ieuanc, gan ddal ar y peth goreu a berthynai iddo, a gadael iddo wybod ei fod ef yn canfod hwnnw ac yn ei werthfawrogi. Fe fawr edmygai wr yn meddu ar ddawn y weinidogaeth: "dyna ddyn wedi ei dorri i bregethu," ebe fe am y Dr. Hugh Jones Nerpwl. Dyma fel y dywed Mr. J. Henry Lloyd am dano: "Gwr yn meddu ar dynerwch nodedig. Un iawn am ysgwyd llaw: byddech yn teimlo