Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymaith yn ei Olygfa, a fwriadai yn ddrych o ryfeddod o'r dref a'i hamgylchoedd. Gwir fod yr adar dofion ganddo a'r adar perorus: ceir hwy ym mhob ardal: ei gylch ef oedd y swyn cartrefol ac nid y gwylltineb syn. Rhoes awgrym i feirdd ieuainc y dref: ac yr ydym yn aros am y tafod a faidd fynegi'r dirgelwch, agored i ni i gyd. Hyd hynny, dyma'r peunod a'u gwers:

Yntau'r balch, y Paun, trwy bwys,
I'w wisg emawg, sy gymwys;
Is crochlais dai'r ysgrechllyd
Hwn, yn gorff Hunan i gyd;
Lliwiog, llygadog ydynt
Ei blyf gwib i hylif gwynt ;
Ei donllyd gynffon danlliw,
A'i wydrog wedd sy dra gwiw;
Fel fy rhes aflafar hon
Y rhodianna rhai dynion.

Y mae gerbron ddalen o ysgrifen, gwaith gwr a fagwyd yn y dref, yn rhyw goffa o ddylanwad y diwygiad diweddaf, ac a ddengys nad cwbl fud yw gwylanod y môr wedi bod yn y cylch yma. Y mae'r fyfyrdraith yn un hynod braidd a go faith, ond meiddir ei dodi ger gwydd y darllenydd: "Aethum am dro brynhawn echdoe dros yr aber a'm' meddyliau am addoliad,' fel mynyddoedd Islwyn, canys nid hawdd peidio â bod felly yn hollol yr amseroedd yma. Mi gefais fy hun wedi myned. braidd ymhellach na'm bwriad, a dechreuwn glywed swn dieithrol yn dygyfor yn y pellter. Mor o swn isel,' ebwn ni wrthyf fy hun—nid angylaidd fôr o addoliadol swn,' megys y mae'r ymadrodd gan Islwyn eto; ond môr o isel swn yn graddol godi'n uwch uwch fel y neswn ato, sef swn gwylanod y môr, fel y deallais yn y man. Yr oedd yn gymysgfa ryfedd,—gwich a gwawch, ymdderu ac ymddygwd, clebar a chlochdar, a seiniau nad oes dim geiriau i'w cyfleu. Yr oeddwn yn eu golwg yn union: yr oeddynt yn llond y culfor y tu yma i'r Belan sy'n mynd i gyfeiriad Dinas Dinlle, oddieithr yn y ddau ben, ac am beth ffordd oddiwrth y glanau. Yr oedd y llanw fwy na hanner i fewn. Rhyfeddwn yn yr olwg ar y fath nifer. Gwylanod oeddynt yn bennaf, ond gyda'r adar môr eraill a geir y ffordd yma yn eu plith. Rhennais hwy yn fy meddwl yn wyth ran, a phob rhan yn wyth arall, a phob un o'r rheiny yn wyth arall drachefn; a chefais fod oddeutu 150 yn un o'r rhannau hynny,