Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb eu bod yn amlach yno nag mewn lleoedd eraill, a chasglwn fod yno dros 70,000 ohonynt. Nifer aruthrol!—a bum yno yn hir yn ameu golwg fy llygaid fy hun. Ond hynotach na'r nifer oedd y swn, a'r ysbrydiaeth hefyd, i'w alw felly, a ymddanghosai yn eu rheoli. Yr oedd rhywbeth neu gilydd wedi digwydd!—yr oeddynt i gyd yn tuchan y naill wrth y llall. Yma ac acw dros y maes gwyn i gyd, gwelid rhyw un neu gilydd yn codi o'r dwfr, yn ysgwyd ei haden yn gyffrous, yna yn taflu ei hunan i'r dwfr gyda rhuthr—nid yn disgyn yn esmwyth arno fel pluen o un o'i hesgyll hi ei hunan; ac ar yr un pryd yn clochdar yn y modd mwyaf cyffrous,—gbo, gbo, gbo, gyda'r b yn o ysgafn, a swn tebyg i ddwfr yn dod allan o wddf potel, ond gyda naws ynddo o anferth duchan. Nid oeddwn yn gwbl sicr am y seiniau chwaith gan faint y dadwrdd; ar draws yr gbo, gbo, gbo, fe ddeuai gwichiadau a gwawchiadau anhraethol, anherfynol. Tarawodd i'm meddwl gydag argyhoeddiad mai'r achos ydoedd canu a gorfoleddu y cynulliadau ym Môn yn yr awyr agored yn ystod y diwygiad, yr olaf ohonynt drosodd ers ychydig ddyddiau bellach. Nid oedd dim o fath hynny wedi digwydd yn hanes y byd o'r blaen. yn y parthau yma: cynulliadau mor fawrion, a chymaint o ganu a gwaeddiadau cyffrous yn parhau gyhyd o amser. Yr oedd canu'r diwygiad wrth godi i'r awyr wedi cyffroi ysbrydion yr awyr; yr oedd y cynnwrf hwn oherwydd aflonyddu ar yr adar yn eu tiriogaeth eu hunain. Naill ai yr oeddynt yn tuchan oherwydd aflonyddu arnynt, ac yn ameu bod amcan drwg mewn bwriad tuag atynt; neu ynte yr oeddynt yn dynwared y cynhyrfiadau yn eu ffordd eu hunain. Methwn yn lân a phenderfynu prun. Ond mai'r naill neu'r llall ydoedd, neu ynteu'r naill ynghyda'r llall, nid oedd ynof unrhyw amheuaeth. Anrhaethol oedd yr argraff o ddieithrwch a dirgelwch ac ofnadwyaeth ar fy meddwl! Mi hoffaswn fod wedi aros yno yn hir, cyhyd a hwythau, ond nis gallaswn. Yr ydoedd hanner awr yn gymaint a fedrwn ddal, ac aethum ymaith â'm natur yn dirgrynu gan y dylanwad, oedd mor ddieithr a llethol i mi. Gorfoledd y diwygiad: ysgrechiadau ac ysbonciadau y gwylanod! Pa fodd i'w cynghaneddu? Credu yr wyf mai ochenaid y greadigaeth am ymwared oedd yn glywadwy yma. O'r naill du nid oedd yma. ddim rhegfeydd,—mor bell ag y gallaswn wneud allan,—dim