Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/250

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod anhyblygrwydd mawr ynddo ar ryw gyfrifon, eto yr oedd ei galon fel calon plentyn. Yr oedd lledneisrwydd a charedigrwydd mawr ynddo. Yr oedd at wasanaeth Penygraig ym. mhob peth. Pe buasai yn weinidog cyflogedig ganddynt am ddau can punt y flwyddyn, nis gallesid disgwyl iddo fod yn fwy ymroddedig i'w gwasanaethu. Ac yr oedd yn fwy cymeradwy a phoblogaidd fel pregethwr na neb a ddeuai i'r lle. Crybwyllai Mr. Rowlands am ymddiddan oedd wedi bod rhwng Mrs. Roberts a'i hanwyl briod ychydig cyn iddo'i gadael, pryd y dywedai pe cawsai fyw am ryw ddeng mlynedd, ei fod yn meddwl y buasai wedi gorffen ei waith yn lled lwyr erbyn hynny, ac wedi gwneud diwrnod lled dda o waith. Ond ynghanol ei waith y cymerwyd ef ymaith; ac nid oes gennym ddim i'w wneud ond myned a'r bwlch mawr at yr Iesu. Sylwodd Mr. Ellis James Ty'nllwyn, hefyd, fod Mr. Roberts wedi bod yn amlwg iawn gyda llenyddiaeth a gwahanol ganghennau, ond mai gyda'r canu yr oedd yn frenin. Yr oedd John Ellis o Lanrwst, flynyddoedd lawer yn ol, wedi gwneud llawer gyda'r canu, a rhai eraill ar ei ol yntau, ond ni wnaeth neb ddim i'w gymharu a'r hyn wnaeth ein diweddar frawd." Y mae'r adroddiad o'r ymddiddan hwn yn y Cyfarfod Misol yn eithriadol faith; ond dichon ei fod yn werth i'w ddodi i fewn, nid yn unig er ei fwyn ei hun, ond yn ychwanegol at hynny, fel enghraifft o'r sylwadau coffäol yn y Cyfarfod Misol. O ddiffyg lle, ni roir yn gyffredin ond brawddeg ferr, a honno'n fynych. yn gwasanaethu dros ddau neu dri; ac yn aml ni roi'r adrodd- iad o gwbl. Am y rheswm hwnnw, nis gellir gwneud ond defnydd achlysurol o'r cofnodion yn y ffordd neilltuol yma yn hyn o waith. (Edrycher Capel Coch, Llanberis).

Yn 1877, ar ol ymadawiad Ieuan Gwyllt, ymgymerodd y Parch. Richard Humphreys â bugeiliaeth yr eglwys yn chwanegol at y Bontnewydd. Yn 1878 cychwynnodd Dr. Griffiths allan i'r maes cenhadol. Yn 1880 derbyniwyd yn flaenoriaid yn y Cyfarfod Misol,-Thomas Humphreys a Thomas Williams y Fron.

Yr oedd ar Thomas Williams y Fron fawr awydd i atgyweirio y capel a'i helaethu. Ar ol talu'r gweddill o'r ddyled gan yr eglwys, gyda'i gynorthwy haelionus ef, fe hwyliwyd at hynny yn ddiymdroi, a thalodd yntau dros £300 at yr amcan. Agorwyd y capel yn 1881. Ond gan iddo ef ei hun symud