Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/254

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mellten, ac ambell un yma ac acw yn gweiddi 'croeswch.' Mr. Humphreys welais i am dymor yn gofalu am y dyddiadur yn y daith. Yr oedd ganddo ei idea ei hun am waith bugail, ac ni wyrodd oddiwrthi hyd y diwedd. Eglwys dawel, heddychol oedd Penygraig, lled ddifywyd, a dim llawer o organeisio yn myned ymlaen ar y pryd; fel nad oedd y bobl fyth yn dod wyneb yn wyneb â mater dyrus. Fel mai anhawdd gwybod beth fuasai hanes yr aelodau pe wedi cael eu hunain mewn dyryswch."

Y mae gan olygydd y Llusern (1889, Chwefror), sef y Parch. R. Humphreys, nodiad ar John Evans, un o gymeriadau y lle. Dyma grynhoad ohono: "Yr oedd John Evans yn un o ddynion goreu y gymdogaeth. Cyflawnodd waith diacon er na ddewiswyd ef erioed i'r swydd. Bu'n foddion i gael gan amryw o drigolion yr ardal brynnu a darllen llyfrau na fuasent yn gwybod dim am danynt onibae am dano ef. Yr oedd yn blaenori yn yr holl gylchoedd crefyddol. Gwnaeth y goreu o'r dalent a ymddiriedwyd iddo. Cafodd well manteision addysg na'r cyffredin, a defnyddiodd ei addysg a'i grefydd foreuol i wneud hynny o ddaioni a allai. Nis gwyddom am neb ag y gellid dweyd y geiriau, Da, was da a ffyddlawn, yn fwy priodol am dano."

Dyma adroddiad ymwelwyr 1885 â'r ysgol: "Yr oedd y pnawn Saboth yr aethom yno yn digwydd bod yn un gwlyb iawn, ac felly yn fanteisiol i gael golwg ar ffyddloniaid yr ysgol yn y lle. Yr oedd pawb yno yn brydlon erbyn dau, er fod gan lawer ffordd faith i'w theithio ar ddiwrnod gwlawog. Ysgol drefnus iawn yr olwg arni. Ae y gwaith ymlaen megys ohono'i hun. Y plant yn darllen yn dda, ac ymdrech yn cael ei wneud i'w dwyn i ddeall yr ysgrythyrau. Darllen lled dda ar y cyfan yn y dosbarthiadau hynach. Yr athrawon heb gymell digon ar aelodau y dosbarth i ofyn cwestiynau, ac weith- iau y cwestiynau yn rhy fân i rai mewn oed. Henry Edwards, John Jones."

Ar ben y graig y gosodwyd y capel. Y mae'r awel yno yn iachus a'r olygfa yn fwyn. Ar ddiwrnod braf o haf, y mae'r olygfa o'r tucefn i'r capel yn glaer, yn amrywiol, yn dawel. Pan yno ar ddiwrnod felly, fe gyfyd gerbron ysbryd un a elai yno weithiau er mwyn y tawelwch a'r claerder a'r mwynder sanctaidd. Fe ddewisodd Ieuan Gwyllt lecyn gerllaw er mwyn