Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/258

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drwyddi hi ar ogoniant trefn yr Efengyl. Pan elai dosbarth Mary Evans weithiau yn rhy luosog, ei chynorthwy fyddai Margared Williams Cefn y craswr; a pharhaodd y ddwy yn ffyddlon i'w gwaith yn yr ysgol ar ol symud i'r capel. Sion Ifan Rhosbodrual a ddysgai sillebu i ddosbarth o fechgyn. Fe dynnai Sion Ifan yng nghlustiau'r bechgyn pan na fyddent esgud i wrando. Geilw Mr. Evans Sion Ifan yn ddernyn of risial clir, a phriodola iddo arabedd, a dywed fod gan y Parch. Dafydd Jones feddwl uchel o'i synnwyr.

Adroddid y Deg Gorchymyn gan bob dosbarth yn ei dro ar y Sul. Wedi i'r dosbarth gyda'i gilydd adrodd y Deg Gorchymyn, fe fyddai rhyw un ohonynt yn adrodd y gweddill o'r bennod. Ni oddefid ail-adrodd yr un wers am o leiaf chwech wythnos, ac fel ail-adroddiad y cyfrifid pan wneid hynny. Yr oedd yr un deuddeg rheol ganddynt ag y cyfeirir atynt yn hanes' ysgol Caeathro. Ysgrifennid ar le amlwg y materion yr oeddid i holi arnynt am amser penodedig. Y mae Mr. Evans yn nodi un mater, sef, "Y diafol: beth a feddylir wrth y diafol? Ysbryd aflan syrthiedig yw yn gwrthryfela yn erbyn Duw. Gwel Judas i. 6." Dafydd Robins Pengelli, hen gymeriad yn ei ffordd, a ofalai am y materion.

Yn ystod cyfnod Lôn glai fe ae'r cyfarfod gweddi wythnosol ar gylch, ond y gofelid am i'r cyfarfod gweddi misol fod yn sefydlog yn y Lôn glai. Ymhen encyd o amser fe ddechreuwyd cael ambell bregeth yn y prynhawn yma. Yn y modd yma fe geid gwasanaeth John Humphreys y nailer, John Wynne, Mr. Lloyd, Dafydd Pritchard Pentir.

Yr oeddid yn arfer rhannu'r ardal yn ddosbarthiadau a phenodi rhai i fyned drwyddynt gan wahodd esgeuluswyr. Cychwynnwyd casgl yn yr ysgol i'r amcan o godi ysgoldy. Gyda pheth ymdrech y cafwyd tir i adeiladu gan y Faenol. Fe ddywedid mai'r ymresymiad a yrrodd yr hoel adref ydoedd eiddo Roberts y Crug, sef fod eisieu rhywle i gymeryd y plant drwg a chwalai'r cloddiau ac a laddai'r cwningod ar y Suliau.

Sicrhawyd prydles y tir yn 1840 am 99 mlynedd ar rent o bum swllt y flwyddyn. Dechreuwyd adeiladu yn 1839 yn y fan y saif y capel presennol. Yr oedd y bobl yn ewyllysgar i weithio o'r plentyn hyd yr henwr. Fe gynhwysid lle yn yr ysgoldy i 128. Rhoddwyd y bregeth gyntaf yno gan Daniel Jones Llanllechid; ac efe, hefyd, a roes yr enw Nazareth arni.