rhwygo'i gilydd; o'r tu arall dim O diolch!" dim 'Gogoniant!' dim Haleliwia!Ar y ffordd i'w rhyddid y maent,' ebwn ni wrthyf fy hun: Canys ni a wyddom fod yr holl greadigaeth yn cydocheneidio ac mewn cyd—wewyr esgor hyd y pryd hwn. Gbo, gbo, gbo, gwich, gwawch, a seiniau nad oes dim cyflead iddynt yn llythrennau'r wyddor, er fod y Gymraeg yn well na'r Saesneg yn hynny. Wrth wrando ar y swn yn unig heb sylwi ar yr ystyr, nid cwbl anhebyg ydoedd y cyfarfod hwnnw yn y Pavilion. Ond ar y gwaelod hwnnw o ochneidiau ac aflafareiddiwch yn y Pavilion, fe ymddyrchafai ryw adeilwaith o ddyhead a mawl ysbrydol. O diolch!—Achub!— Trugarha!—Bendigedig!—Awr o dy gymdeithas felys!—Gogoniant!—Maddeu i mi am dreulio fy amser yn y lleoedd gwaethaf yn Nerpwl—Diolch!—Bendigedig !—Diolch i ti am fy mod yn gallu credu fod fy mam yn fy ngweld rwan allan o'r nefoedd! Gogoniant !—Haleliwia!' Ar glawr y gwylanod nid oedd dim ond och a thuchan: ar glawr pobl y Pavilion yr oedd dyhead a phrofiad yn hedeg ymaith ar aden eu hochenaid. Nid yw ochenaid y greadigaeth ond ei haidd am ddatguddiad meibion Duw. Etyb y greadigaeth i'r eglwys: fe'u gogoneddir ynghyd. Fel yr awn ymaith mi sylwn ar y gwylanod yn parhaus ddod allan o'r anweledig, yn ysmotiau duon yn cynyddu fwyfwy, o gyfeiriad Porthaethwy a Chaergybi a'r Eifl a Phorthdinllaen, yn ymestyn ac yn ymgyrraedd am fod yn y gorfoledd mawr, neu wrth pa enw bynnag arall y gelwid ef. Rhwydd hynt iddynt i'w pennod!" Ar y darlleniad cyntaf ar y truth go ryfedd yma, meddyliodd golygydd hyn o waith am eiriau Newman, nad ydym ni ddim yn gwybod mewn gwirionedd pa beth yw'r creaduriaid o'n hamgylch. Ac ar unrhyw olwg, fe ddengys y dernyn uchod nad yw'r creaduriaid ddim. yn gwbl heb eu neges atom, a honno'n neges bwysicach, feallai, na feddyliodd ambell un go ddiawen. Ac os mynnir myned i fewn i holl ddirgelwch y dylanwadau ar feddyliau hogiau'r dref, dealler fod a fynno'r gwylanod hefyd rywbeth â hanes yr achos; a chymerer hanes y gwylanod hyn fel rhyw enghraifft o'r hyn sydd i'w draethu, er ar ddulliau llawn amrywiaeth, am y cylch o ryfeddod am y dref—y môr o wydr wedi ei gymysgu â thân.
O ba le bynnag y tardd y dylanwad hwnnw, y mae'n ddiau fod rhywbeth priodol iddi ei hun yn nylanwad y dref ar ei