Bowman, Plas isa, Porth yr aur. Dyna i chwi enw tlws! Beth roddodd fod i'r enw, ys gwn i?" Edrydd Anthropos allan o Hutton fod nifer y tai o fewn y muriau yn 92 ac o'r tuallan yn 300. Gwelir fod yma gywiriad pwysig ar atgof yr hen "fachgen," pan y dywed fod y dref yn bennaf o'r tufewn i'r caerau, ac mai ychydig oedd y tuallan. El Anthropos ymlaen: Ymysg y rhai oedd wedi ymgynnull i gapel Penrallt (rhagredegydd Moriah), ar nos Sul, Medi 8, 1799, yr oedd Mr. William Hutton, cynfaer Birmingham. Dywed fod y lle yn orlawn. Ychydig oedd nifer yr eisteddleoedd, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn sefyll drwy ystod y gwasanaeth. Nid yw'n dweyd enw y pregethwr, os gwyddai; ond y mae'n sylwi fod ganddo lais treiddiol, a'i fod ar brydiau yn gweiddi yn groch. Pwy ydoedd, tybed? . . . Fodd bynnag am hynny, dywed Mr. Hutton fod y lle wedi myned yn ferw drwyddo: y bobl yn llamu ac yn gorfoleddu am oriau; ac yntau yn eu canol wedi ei syfrdanu yn gyfangwbl. Ond yr oedd yr elfen feirniadol ar waith yn ei feddwl. Gofynnai iddo'i hun—Beth ydyw hanes y bobl yma bob dydd? A ydynt yn byw crefydd yn eu cysylltiadau cymdeithasol? A ydyw eu hymarweddiad yn bur, yn onest, yn ddichlynaidd? . . . Ac yn ystod y dyddiau dilynol . . . aeth oddiamgylch y bobl yn eu gwaith a'u masnach er mwyn cael goleuni ar y gofynion oeddynt yn cyniwair drwy ei feddyliau. Ac y mae ei ateb yn glir a diamwys. Cafodd ei argyhoeddi mai nid penboethni oedd yn cyfrif am y brwdfrydedd crefyddol oedd yn y dref, a bod y gorfoleddu yn cydfyned â chyfnewidiad amlwg ym mywyd y bobl. Y mae y dychweledigion," meddai, 'yn arwain bywyd. dichlynaidd ac yn ymarfer â duwioldeb bob dydd.'" Dywedir yn Old Karnarvon am gyfnod dechreu'r ganrif ddiweddaf y byddai Samuel Eborne yn derbyn papur newydd wythnosol o Loegr, ac mai ganddo ef y cawsai masnachwyr y dref wybodaeth am brisiau marchnad Llundain. Tebyg, pa ddelw bynnag, nad oedd hynny ddim yn wir am danynt i gyd. Byddai Samuel Eborne, hefyd, fe ymddengys, yn ysgrifennu dros liaws o bobl, cystal ag yn darllen iddynt. Dywedir ymhellach fod llysenwau yn ffynnu yn fawr yn y cyfnod hwnnw. Sonid am Siop William bach, Siop John gloff, Siop Jac y sadler mawr, Siop teganau Huw'r crydd. Enwau a roid ar ddynion oedd, Wil popi dol, Wil Balabwsia, Twm yr arian, Dic
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/33
Prawfddarllenwyd y dudalen hon