Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1865, Geiriadur Cymreig Cymraeg Cynddelw yn 1868, Atodiad i'r Blodau Arfon yn 1869, Gwaith Ieuan Brydydd Hir yn 1876, Barddoniaeth Cynddelw yn 1877, Josephus yn 1882, Drych y Prif Oesoedd yn 1883, Teithiau Pennant (Saesneg) yn 1883, cyfieithiad o Deithiau Pennant, Llyfr y Resolusion yn 1885, cyfieithiad o Vicar Wakefield, Taith y Pererin, ac amryw eraill. Nid oedd Hugh Humphreys yn gyhoeddwr ideal. Newidiodd briod-ddull Llyfr y Resolusion mewn mannau; newidiodd eiriad Josephus Hugh Jones Maesglasau, gan ei gyhoeddi fel cyfieithiad newydd; ac nid yw papur ac argraff lliaws o'i lyfrau cystal ag y buasai dymunol. Cofier o'i blaid, er hynny, ddarfod iddo gyhoeddi lliaws o lyfrau goreu'r iaith, a rhai o'r rheiny am y tro cyntaf; a darfod iddo gyhoeddi cryn liaws o lyfrau eraill, buddiol i wahanol ddosbarthiadau o ddarllenwyr; a bod y cwbl ohonynt agos nid yn unig yn ddiniwed eu tuedd ond yn dra buddiol i'r darllenwyr cyfaddas iddynt. Nid oes le i gasglu chwaith ddarfod iddo elwa rhyw lawer oddiwrth ei ysbryd anturus a'i lafurwaith maith. Y mae Mr. O. M. Edwards yn y Cymru wedi galw sylw at yr esgeulustod mewn cydnabod rhwymedigaeth y wlad i'w goffadwriaeth. Yn ddilynol i'w gyfnod ef y mae gwasg y dref yn amlhau llyfrau buddiol a gwerthfawr. Dechreuwyd argraffu'r Carnarvon and Denbigh Herald yma yn gynnar yn y ganrif; yr Herald Cymraeg yn 1855; y Goleuad yn 1869; y Genedl yn 1877; Gwalia yn 1881; y Geninen yn 1883; Cymru yn 1891; Cymru'r Plant yn 1892; y Drysorfa a Thrysorfa'r Plant yn 1899; y Traethodydd yn 1904; y Dinesydd yn 1912. Mae'n ddiau fod y cynyrchion hyn o eiddo'r wasg yn rhoi eu hargraff o gymaint a hynny yn fwy ar ieuenctid y dref ag mai yn y dref yr ymddanghosant. Y mae golygyddion ac argraffwyr drwy'r cyfrwng hwn yn cael eu tynnu i fyw i'r dref, ac y mae eu dylanwad hwythau mewn lliaws o enghreifftiau wedi bod yn un dymunol neu hyd yn oed yn ddyrchafedig. Ond annichon peidio â sylwi ar y cyfochredd hynod yng nghynnydd Methodistiaeth â chynnydd cynyrchion y wasg. Nis gellir priodoli'r cynnydd yn yr olaf yn gyfangwbl i'r cynnydd yn y blaenaf, bid sicr; ond teg, debygid, fyddai cydnabod mai un brif elfen yn y cynnydd olaf yw'r cynnydd blaenaf. Oddeutu'r flwyddyn 1820 yr ydoedd yn dymor adhybiad yr ysbryd eisteddfodol yn y wlad. Sefydlwyd y Gymdeithas Gymreig er diogelu yr hen lenyddiaeth yn 1818. Cynhaliwyd eis-