fyddai ar brydiau wedi galw i ymweled âg ef. Lle atyniadol i lenyddion oedd y Liver. Pwy yng Nghaernarvon, drwy ystod. yr hir flynyddoedd, a brofodd ei hun yn fwy llengarol . . .? Pwy yn fwy ymroddol a medrus ynglyn â chychwyniad a dygiad ymlaen yr eisteddfodau mawr, llwyddiannus, a fu yn y dref?"
Y mae Anthropos, hefyd, yn ei Oriel Atgof, yn son am gymeriadau llenyddol yr un cyfnod ag Alafon. Dyma rai dyfyniadau: "Gyda'r Darlunydd [yn swyddfa'r Herald Cymraeg] y dechreuais ar fy nyddgylch; ond disgwylid i mi gynorthwyo gyda'r papur newydd. . . . Dyn llydan, gweddol dal; gwyneb llawn, mynegiadol—digon tebyg i'r darluniau a welir o Thackeray. Efe oedd golygydd yr Herald Cymraeg yr adeg honno: olynydd Alfardd, fel y tybiaf. Dyn diwylliedig iawn oedd y Cwilsyn Gwyn (neu Mr. John Evans-Jones),—pur gyfarwydd â llenyddiaeth Saesneg. . . . Yr oedd Llew Llwyfo yn un o'r gweision cyflog. . . Gan y Cwilsyn Gwyn, fel rheol, yr oedd y weledigaeth, pe cawsai'r hamdden dyladwy. Y cwbl oedd yn eisieu ar y Llew ydoedd amlinelliad. . . . Deuawd dyddorol oedd y Llew a'r Cwilsyn Gwyn. . . . Dros y ffordd yr oedd Ioan Arfon. . . Yr oedd Ioan Arfon yn foneddwr wrth natur. . . . Dyn o farn; pwyllog ei barabl; ond yn dwyn mawr sel dros bethau goreu cenedl. . . . Symudais yn y man o swyddfa'r Herald Cymraeg i swyddfa'r Genedl Gymreig. Nid newid lle yn unig a wnaethum ond newid hinsawdd. . . . Y golygydd ydoedd Mr. James Evans: gwr cyfarwydd. . . . Yr oedd gwall argraff yng ngholofnau'r Genedl, megys rhoi 'Llys yr Ynadon Siriol am Lys yr Ynadon Sirol,' yn boen a blinder i'w enaid. [Fe fyddai Llew Llwyfo yn arfer ag adrodd am dano yn galw allan o'i offis ar y cysodydd, mewn ton bryderus,— A ydyw'r come yna wedi ei roi i mewn?']. . . Un o'r rhai mwyaf poblogaidd ar ddalennau'r Genedl Gymreig oedd Andronicus, awdwr y golofn wythnosol a adwaenid wrth yr enw,—Yn y Trên. Trafaeliwr masnachol oedd Andronicus. Gorfu iddo ysgrifennu yn ei flynyddoedd olaf ar wely poen a blinder, â'i fysedd wedi eu crebachu gan y gymalwst. . . . Sketches a geid ganddo: rhyw bortreadau gweddol fychain, ond yn nodedig o dlysion mewn lliw a llun. . . . Gwisgodd olygfeydd Llyn Tegid, a hen gymeriadau'r Bala, â gogoniant ac â harddwch. . . . Yr oedd Eos Bradwen wedi cyfansoddi ei