Moriah, ydoedd yr un a ymdaflodd yn llwyraf o bawb i'r gwaith. Ni bu ei hafal yn y dref o ran sel gyda'r achos, ac o ran tanbeidrwydd fel amddiffynnydd cyhoeddus iddo. Fe helaethir ar hynny yn y sylwadau arno ynglyn âg Engedi. Robyn Ddu a wnaeth fwyaf o bawb o breswylwyr y dref i ledaenu egwyddorion dirwest yn y byd. Teithiodd lawer i'r amcan am gyfnod maith drwy Gymru i gyd, a theithiodd nid ychydig yng ngwahanol rannau'r deyrnas gyfunol ac America, gan lefaru yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yr oedd yn siaradwr Saesneg rhwydd a chywir ar y cyfan. Heb amrywiaeth mawr yn ei ddull, yr oedd siarad yn naturiol iddo fel anadlu. Meddai, hefyd, ar arabedd naturiol helaeth, a dawn i adrodd hanesyn. Estynnai swyn tawel dros y dorf wrth iddo gyfarch, ac yn ei adegau dedwyddaf i gyd fe ymddanghosai fel yn chware gyda hi, ac heb unrhyw ymdrech yn y byd fel yn ei chwyrlio o amgylch pen ei fys. Wrth gymharu dulliau gwahanol genhedloedd â'i gilydd fel gwrandawyr, fe ddywed iddo weled Cymry yn wylo, yn neidio ac yn canu dan ei areithiau. (Teithiau, t. 76). Yr oedd Christmas Evans yn weinidog yn y dref ar gychwyniad dirwest, ac ni bu yn hir cyn rhoi ei ddylanwad mawr a'i ddawn dihafal o blaid yr achos. Fel hyn y sylwir arno yn ei gysylltiad â dirwest yn yr erthygl arno yn y Gwyddoniadur: "Clywsom ef amryw droion yn areithio ar yr egwyddor ddirwestol, nes gyrru tyrfaoedd o bobl i'r cyffroadau mwyaf a welsom erioed, drwy chwerthin a galaru braidd ar yr un anadl. Parodd dau beth mewn cysylltiad â dirwest ofid mawr iddo, yn ol fel y dywedai wrth yr ysgrifennydd, sef yn gyntaf, fod rhai yn gwneud crefydd o'r peth, ac yn cymeryd gosodiadau'r Efengyl, y rhai ydynt wedi eu hamcanu i dynnu dynion at Grist a'i Groes, i berswadio dynion i ddyfod yn ditotals. 'Peth ynfyd a drwg, debygaf i, yw lladrata cymhellion yr Efengyl sanctaidd at ddim arall. Mae'n ynfyd, oherwydd nid wrth ddala dannedd dynion ar y maen llifo, drwy fygwth dydd y farn olaf arnynt, fel y gwna ——— [sef gweinidog gyda'r Bedyddwyr] y daw dynion yn ditotals. Mae'n ddrwg, oblegid mai lladrata llestri'r cysegr at wasanaeth na fwriadwyd mono ydyw. Yn ail, codi dynion o ganol llaid meddwdod, i areithio, i lanw pulpudau â chabledd yn gymysg â ffolineb, a hynny yn fynych cyn i'r llaid sychu a chael ei frwsio oddiarnynt, a rhai gweithiau cyn iddynt gael ym-
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/47
Prawfddarllenwyd y dudalen hon