gan William Jones, gweinidog Pendref. Yn 1818 y bu John Griffith, gweinidog Pendref cyn hynny, farw; a bu Simon Hobley yn gwrando arno ef yn pregethu yn y Bontnewydd. Agorwyd y capel yn 1826; ond ni ffurfiwyd eglwys am flynyddcedd wedi hynny.
John Griffith ydoedd tad William Griffith Caergybi, tad teilwng o'r mab. Yr oedd yn wr tal, cydnerth, hardd, boneddig yr olwg arno, parchedig yngolwg pawb, ac yn meddu ar ddawn. felys a phoblogaidd. Er hynny, bod yn dad i William Griffith ydoedd ei anrhydedd uchaf, a'i waith yn llunio ei gymeriad ef ei orchest bennaf. Ac yr oedd ei fab arall, y Parch. John Griffith (Buckley) yn addurn arall arno. Yr oedd John Griffith y tad yn fwy pregethwr na'i feibion. (Hanes Eglwysi Anibynnol, t. 234 ac ymlaen.)
Feallai mai gweinidogaeth Caledfryn oedd y fwyaf cynhyrfus o eiddo un gweinidog a fu yng Nghaernarvon. Bu ymraniad yn ei eglwys pan ymadawodd lliaws i sefydlu Joppa. Yr oedd efe yma pan torrodd y diwygiad dirwestol allan gyda'r fath rym, a gwrthwynebodd y diwygiad hwnnw. Ac megys ag yr oedd yn briodol iddo ef, wedi dechre gwrthwynebu, gwrthwynebodd â'i holl egni. Yr oedd amddiffynwyr dirwest yn y dref, o'u tu hwythau, yn meddu ar eithafion sel o blaid eu hachos. Taranai y naill yn erbyn y llall. Gadawodd y nifer mwyaf o'r tafarnwyr y capelau eraill, gan godi eu pabell ym Mhendref. Diau fod a fynnai hynny lawer â'r ymraniad. Aeth y dirwestwyr i Joppa, a gadawyd y lleill ar ol; a ffynnai gwrthwynebiad penderfynol rhwng y ddau le. Parodd ymosodiad Caledfryn ar ddirwest iddo ef a'r Dr. Arthur Jones (Bangor), oedd yn gyfeillion mawr o'r blaen, fyned dros ysbaid yn wrthwynebwyr mawr. Pan ymadawodd y dirwestwyr i Joppa, fe wnaeth y Dr. Arthur Jones y sylw fod y colomenod i gyd wedi codi o Bendref, gan adael y brain i gyd ar ol! Achos arall o gynnwrf nid bychan oedd ymosodiad Caledfryn ar grib-ddeiliaeth masnachwyr y dref. Nodai enghreifftiau yn ddigon amlwg i'w hadwaen, fel yr hysbysid hwy iddo, weithiau'n deg weithiau eraill yn anheg; ac yn naturiol fe greai hynny siarad mawr a drwgdeimlad mawr. Yr oedd yn wleidyddwr aiddgar, a pharai ei bleidgarwch i Ddatgysylltiad a phynciau eraill lawer o siarad ac ymddadleu. A byddai dwndrio nid bychan uwchben ei feirniadaethau llenyddol miniog. A dyddiau y parlwr