Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pregethwr. Aeth at Garnons, ac ebe fe, "Nid oes yma neb yn aflonyddu nac yn peri anrhefn ond y chwi, syr. Os na fyddwch yn llonydd, mi a âf a chwi fy hun i'r gwarchdwr." Yr oedd W. P. Williams yn cofio John Rowlands, a dywed yntau, oddiar ei wybodaeth ei hun, ei fod yn wr cryf, a "llais mawr, awdurdodol ganddo, yn ddigon i greu arswyd ar feddwl y gwr boneddig."

Bu Richard Owen farw ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy ar ol dyfod o Evan Richardson yma, ac ymbriododd Evan Richardson â'i weddw, Elizabeth. Bu hi farw Awst 7, 1806, yn 55 oed. Yr ydoedd eu merch Esther yn hynod am ei gorfoleddu. Priododd Evan Richardson yr ail waith yr Ann Williams a nodwyd, sef gweddw Peter Ellis.

Buwyd yn cynnal moddion yn llofft Tanrallt am tua phum mlynedd. Y mae Griffith Solomon yn rhoi ei atgofion am lofft Tanralit: "Symudwyd o Dreffynnon ymhen dau dro neu dri i Danrallt. Safai y pregethwr yno ar ryw risiau, a thyrfa aneirif a gyrchai yno i wrando. Gwelais hwynt yno lawer gwaith pan oeddwn yn 13 a 14 oed, canys yr oeddwn yn byw yn lled agos i Gaernarvon." Atgofia Griffith Solomon, hefyd, am Richard Owen a'i wraig Elizabeth fel rhai yn proffesu duwioldeb, a chred eu bod hefyd yn meddu ar ei grym hi.

Y mae'r weithred gyntaf wedi ei hamseru Mai 1, 1793. Eithr nid oedd meddiant ar yr eiddo hyd Hydref 29, 1793- Arferir rhoi 1793 fel y flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf. Tebyg na orffennwyd mo'r capel hyd y flwyddyn ddilynol. Yr oedd dau dy bychan ar y tir, y naill yn cael ei breswylio gan Edward Jones, morwr, a'r llall gan Mary Jones, gwraig weddw. Un ty a ddywedir yn y Methodistiaeth, mewn camgymeriad, a dywedir fod Evan Richardson wedi gadael y ty ym Mhenrallt y cadwai ysgol ynddo, fel y gallai'r ddwy wraig a'i haneddai fyned i hwnnw. Aeth yntau i gadw ei ysgol i'r capel. Dywedir yn y weithred fod gan yr ymddiriedolwyr hawl i ganiatau i unrhyw berson teilwng gadw ysgol yn y capel, ond i hynny beidio ymyrryd â'r gwasanaeth. Rhan o Saffron Gardens ydoedd y tir a bwrcaswyd, a £60 a roddwyd am dano. Yr ymddiriedolwyr: Thomas Charles, Evan Richards, John Jones Edeyrn, Robert Jones Llaniestyn, John Roberts Llanllyfni, Hugh Williams, Drws deu goed, Llanrug, William Williams