ar bob talcen. Yr ydoedd y capel helaethaf yn y sir. Nodir gan W. P. Williams fod yr enwau yma wrth ymrwymiad i Griffith Thomas am £120 ynglyn â'r helaethiad: Evan Richardson, Robert Griffith Slate Merchant, William Owen Hair Dresser, William Lloyd Shopkeeper, Robert Jones Blacksmith, Humphrey Pughe Skinner, John Humphreys Nailer, John Huxley Tai Meddalion, Llanrug, Miller, John Rowlands Parkia Cochion, Fuller. A dywed mai dyma'r dynion y bu eu hysgwyddau dan yr Arch o'r cychwyn. Y mae ymrwymiad i John Owen Slate Loader yn 1807, yn achos capel Bontnewydd, am £30, wedi ei arwyddo gan rai o'r enwau uchod, ynghyda David Jones Cooper. Ae'r achos ymlaen ar yr un llinellau ag yn yr hen gapel. Yn ol gweithred Mai 14, 1806, yr oedd y darn tir ychwanegol hwn yn 18 troedfedd ar wyneb heol Penrallt, yn 62 troedfedd o hyd ynglyn wrth y capel a'r tir a berthynai iddo, ac yn 56 troedfedd ar yr ochr gyferbyn, ynglyn wrth lwybr yn arwain oddiwrth heol Penrallt, ac yn myned heibio ty yn dwyn yr enw Parlwr Du. Y llwybr a sicrheid i fod yn wyth troedfedd o leiaf.
Y mae rhai danghosiadau o'r adeg yma ar gadw. "Received May 13th 1807 of the Trustees of Saffron Garden situate in Penrallt in the parish of Llanbeblig & County of Carnarvon, by payment of Mr. Robt. Griffith, the sum of Ten Pounds being One Year's Interest upon a bond for Two Hundred Pounds. £10 os. od. Robert Williams." "The Trustees of the Penrallt Chapel. To O. A. Poole. 1807 Taking Instructions to Draw Deed of Feoffment from Mr. Jabez Thomas to you 6s. 8d. Drawing the same Fo 24 £1 4s. 0d. Ingrossing 16s. 0d. Paid for Stamp and Parchment £1 12s. 6d. Attending the execution thereof and when Livery and Seisin was delivered 6s. 8d. [Cyfanswm] £4. 5s. 10d. Third Dec. 1807 Settled Will. Ellis." "For the use of the chapel at Penrallt. To John Owen Dr. 1807 June 12, 3 Bed Cords 3. 9, 1 Do. Do. 2. 9., 1 Do. Do. 1. 8, 1 floor Brush 2. 6, 1 Brush 9 [Cyfanswm] 0. 11. 5. Recd. Dec 3rd. 1808 the above sum p John Owen." "Penrallt Chapel To Wm. Roberts 1809 To Balance of acct 28. 10. I. Novr. 30th. By Cash 9. 0. 0. By Balance due to Mrs. Richard- son 5. 3. 7 [Cyfanswm y ddau olaf] 14. 3. 7 [Gweddill] 14. 6. 6 W. Evans." "Received of Mr. Robert Griffith August 24th. 1808 the sum of One Pound Ten Shilling, being