Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eraill yn y dref. Ond gan i Mr. Lloyd ddod i gadw ysgol i'w le ef, dichon mai o flaen hynny y torrodd ei iechyd i lawr, a dywedir iddo fod yn llesg am flynyddoedd. Tebyg na phregethai yn fynych iawn ar unrhyw adeg ar nosweithiau'r wythnos yn y capel, gan fynyched ymweliadau pregethwyr dieithr; a dywedir mai yn eu habsen hwy y gwnelai hynny.

Profodd yr eglwys yn helaeth o ddiwygiad 1818. Yr oedd rhai o'r bechgyn ieuainc dan fath ar ysbrydoliaeth. Arhosent yn y capel weithiau am oriau ar ol oedfa nos Sul mewn perlewygfeydd. A byddai lliaws yn ymdyrru i wrando arnynt mewn llawenydd a dagrau. Un o'r rhai hynotaf o'r bechgyn hyn oedd Eryron Gwyllt Walia. Yn ystod yr odfeuon byddai degau rhwng 9 ac 20 oed yn moliannu, a pharhaodd hynny an fisoedd. Yr oedd Eryron ar ymweliad â'r dref yn 1854. Wrth fyned heibio'r hen gapel ar y naill law, a maes Cymanfa fawr 1818 ar y llaw arall, ebe fe wrth ei gefnder (y Dr.) Griffith Parry, gan sefyll am funud i ddweyd, a'i lais yn crynu, a'r naill law yn gyfeiriedig at y naill le a'r llall at y lle arall,—"Yma, ac yma, y gwelais fwyaf o Dduw o un man yn fy oes. Yn y capel yn y fan yma, ac ar y maes yna, gwelais a phrofais ryw gymaint o ystyr geiriau felly, Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn! a'th ogoniant a'th harddwch. Ac yn dy harddwch marchog yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd a lledneisrwydd a chyfiawnder; a'th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy." (Cofiant Eryron Gwyllt Walia, t. 19—25).

Bu Evan Richardson farw, Mawrth 29, 1824, yn 65 oed. Fe ddywedodd y Dr. Lewis Edwards wrth wraig y Parch. Thomas Hughes fod Evan Richardson yn ewythr iddo. Ganwyd ef ym mhlwyf Llanfihangel—genau'r—glyn, o fewn ychydig filltiroedd i Lewis Edwards. Fe ddygai ef nodwedd pobl y rhanbarth honno yn fwy amlwg na'r gwr mawr arall, mewn bywiogrwydd, darfelydd a thynerwch amlwg, ac mewn dull ystwyth, iraidd, cyson eneiniedig. Dengys yr hyn a ddywedir am dano yn fachgen ieuanc iawn, a chyn gwrando ohono ar nemor bregeth, ei fod yn naturiol agored i ddylanwadau oddiwrth y byd anweledig, ac aeth yn ieuanc drwy brofiadau o bangfeydd meddwl. Dan bregethu Daniel Rowland Llangeitho y daeth i'r goleu am ystyr trefn yr efengyl, ac y profodd ei hun yn ymgymodi â hi. Y mae pob beirniadaeth arno, megys eiddo Griffith Solomon, ac eiddo Henry Rees (Cofiant John Jones, t. 832), ac eiddo'r