Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/82

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dangos yr esgynai ar brydiau i arucheledd proffwydol. Yr ydoedd wedi bod yn dymor o sychdwr maith ym Môn oddeutu'r flwyddyn 1811. Nid oedd gwlaw wedi disgyn er pan roddwyd had y gwanwyn yn y tir, ac yr oedd bellach yn ŵyl Ifan yn yr haf. Yr oedd yr anifail heb ei borthiant, ac ynghanol Mehefin nid oedd obaith braidd am gynhaeaf. Ym mis Mehefin yr oedd y Gymdeithasfa yn Llangefni. Fe bregethodd Evan Richardson yn olaf y pnawn; ac ar derfyn y bregeth fe'i cymhellid yn ei feddwl ei hun i weddïo am wlaw. Disgynodd arno ysbryd gras a gweddïau. Yn y weddi fe gyfeiriai at y llanc, dan gyfarwyddid y proffwyd, yn myned eilwaith a thrachefn i edrych a welai arwyddion o wlaw. Ac yna fe dorrai allan gyda hysbysiad y llanc am gwmwl bychan yn ymddangos, a bloeddiai allan yn ei ddull ei hun fod "trwst llawer o ddyfroedd" i'w glywed. Gyda'r gair, wele fflachiad mellten a rhuad y daran yn cyffroi pawb, ac yn ebrwydd wele wlaw mawr ei nerth ef yn disgyn, megys ped agorasid ffenestri'r nefoedd! Yr oedd yr effaith yn aruthrol ar bawb yn y lle. Yr oedd yr hin ar y pryd yn boeth iawn, ond nid oedd arwydd o wlaw hyd ymyl yr adeg y disgynnodd allan o drysorau Duw. (Methodistiaeth Cymru III. 356). Eithr pa mor fawr bynnag yr ymddanghosai oddicartref, yr ydoedd yn fwyaf yn ei dref ei hun. Fel yr ysgrifennai ei ohebydd parchedig" at awdwr y Methodistiaeth, nid hwyrach y Parch. Dafydd Jones,—"Mewn gwirionedd, anhawdd fyddai nodi yr un dyn yng Nghymru na Lloegr, a fu'n foddion i ddyrchafu crefydd mor uchel yn ei gartref ag a fu Mr. Richardson, yn enwedigol pan y cofiom ei holl anfanteision." Fe gafodd ergyd trwm o'r parlys rai blynyddoedd cyn y diwedd, fel ag i'w ddifuddio i fesur mawr am y gweddill o'i oes. Fe bregethai rai gweithiau gydag arddeliad hyd yn oed y tymor hwn. Yr oedd ei olwg a'i gof wedi pallu yn fawr, ac ar un tro yn ymyl ei gartref methu ganddo atgoffa ei destyn. Torrodd allan i wylo, gan ddywedyd, "Dyma fi, hen bechadur, heb destyn, ac heb lygaid, ond nid heb Dduw. Bendigedig a fo fe,—nid heb Dduw!" Ac aeth ymlaen i bregethu ar y syniad a gyfleid i'w feddwl oddiwrth ei eiriau ei hun: "nid heb Dduw!" "Byw i mi yw Crist a marw sydd elw," oedd ei eiriau olaf. Hoff ymadrodd ganddo yn ei bregethau, mewn cyfeiriad at y Cyfryngwr, oedd hwnnw,—"Ar ei ben y byddo coronau lawer!" Ac mewn cyfeiriad at hynny y mynegir mewn llythyr cydym-