annioddefol i'w deimlad, a gorfodid ef gan hynny, ac ystyriaethau eraill, i adael yr Eglwys. Wedi hynny, am weddill ei oes, blinid ef gan y meddwl nad oedd wedi ei wir alw yn weinidog Crist, ac mai gan ddyn yn unig y derbyniodd ei swydd, gan nad ydoedd ei hunan ond dyn annuwiol ar y pryd. Tebyg fod ei amddifadrwydd o ddawn naturiol wrth gefn yr amheuon hyn, ac y bu hynny yn rheswm am iddo beidio ymroi yn llwyr, megys y cymhellwyd ef, i waith y weinidogaeth yn y Cyfundeb. Rhaid bod y cyfryw amheuon ynghylch ei alwad wedi ei nychu i fesur, ac i fesur mawr feallai, yn y gwaith. Yr oedd ei ddiffyg dawn nid yn unig yn ddiffyg dawn ar ymadrodd, ond, yn chwaneg, yn ddiffyg dawn i gynyrchu meddyliau, fel y rhaid fod ynddo ymdeimlad o wendid nid yn unig yn y traddodiad o'i genadwri, ond hefyd wrth geisio cael deunydd cenadwri pan wrtho'i hun. Adroddir gan Owen Thomas mai yn yr Ephesiaid a'r Rhufeiniaid y byddai ei destynau fynychaf, ac nad oedd ei bregethau gan amlaf ond cymaint ag a fedrai gofio o hen esboniadau Lladin Musculus a Zanchius. Gyda phregeth led newydd, fe droai ar y dydd Llun i'w hoff awduron er gweled a allodd gludo eu cynnwys gydag ef, a chlywid ef yn cwynfan wrtho'i hun, "Wel! wel! piti! piti! piti! Dyma fi wedi anghofio'r pethau goreu o'r cwbl! Gresyn! gresyn! gresyn!" Parai hyn i gyd, er cymaint y perchid ef, argraff o wendid ynddo fel pregethwr. Fe gofir yr hanesyn am y bachgen hwnnw a holid gan y pregethwr wrth fyned tua'r capel, a fyddai efe'n gweddïo dros y pregethwyr? ac a atebai'n ol y byddai. Gofynnodd yna y pregethwr, am ba beth y gweddïai efe? ac atebai'r bachgen y gweddïai am i Mr. Lloyd Caernarvon gael rhywbeth i'w ddweyd, ac y gweddïai am i John Williams Llecheiddior beidio dweyd gormod. Os y clywid neb o'r hen wrandawyr yn adrodd rhywbeth ar ei ol, byddid yn sicr o'u clywed yn adrodd am dano yn gweithio'i fysedd drwy ei gilydd yn aflonydd, ac yn holi Paul ac yn ei groesholi. Aië, Paul?" "Aië, Paul?" "Ië, Paul?" Ond er cymaint yr holi ar Paul, nid yn rhyw rwydd iawn yr atebai Paul. Ond yr oedd ochr arall iddo. Ar weddi fe fyddai bob amser yn ddwys a gafaelgar. Ac yn ei bregethau, hefyd, ar brydiau, fe atebai Paul yn gampus, â llais uchel dros y capel, nes y byddai'r holl gynulleidfa mewn dagrau, ebe Owen Thomas. "Eithr Duw—eithr Duw—eithr Duw,—yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad drwy yr hwn
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/89
Prawfddarllenwyd y dudalen hon