Y mae'r cofnodion yma gan W. P. Williams: "Y mae'n debyg iddo fod yn addoli gyda'r ddiadell fechan yn y llofft [Tanrallt]. Fe'i ganwyd yn 1762; felly yr oedd yn 25 oed pan ddaeth Mr. Richardson i Gaernarvon. Brodor ydoedd o Bwllheli. Yr oedd yn meddu ar gryn lawer o synnwyr cyffredin a phwyll ac amynedd. Ymddanghosai fod ganddo berffaith lywodraeth arno'i hun a'i eiriau a'i dymer a'i holl ymddygiadau. Nid wyf yn gwybod i neb ei weled wedi gwylltio o ran ei dymer. Mewn achosion o ddisgyblaeth dyrus, gyda rhai o'r swyddogion cystal ag aelodau wedi colli eu tymer, elai Dafydd Jones drwy'r helynt yn hollol hamddenol. Bu'n gynorthwy mawr i Evan Richardson ac yn ymgeledd i'r achos. Wrth weddio, ni fyddai byth yn faith, ac ni phregethai, ond dywedai ei neges yn fyrr ac i bwrpas, a chydag ysbryd gostyngedig, fel plentyn yn ymddiddan â'i dad. Nid ydym yn gwybod ond ychydig iawn am danat yn awr, Nefol Dad, ond ni a ddown yn fwy cydnabyddus â'n gilydd ar ol hyn'; ac yna elai ymlaen i ofyn am wybod mwy a phrofi mwy o rym crefydd ysbrydol. Yr oedd Mr. Richardson yn hoff iawn ohono: byddai weithiau pan yn pregethu yn y Bontnewydd. yn ei gymeryd ef gydag ef. Gwnelai weithiau gamgymeriadau digrifol. Clywais ei fod unwaith wedi darllen pennod o'r Apocrypha wrth ddechreu'r oedfa. [Yr oedd yr hen feiblau yn cynnwys yr Apocrypha.] Gofynnodd y cyfeillion iddo wedi'r gwasanaeth, paham y darllenai'r Apocrypha wrth ddechre oedfa? O!' meddai yntau, 'i edrych a oeddych chwi'n gwybod y gwahaniaeth rhyngddo a Gair Duw.' Dafydd Jones a fu'n cyhoeddi'r moddion am 40 mlynedd. [Rhoddai achos y tlodion gerbron y gynulleidfa, gan roi yr enw a'r cyfeiriad, a gadawai ar hynny. Cyhoeddai mewn llais eglur ac mewn modd cryno. (Cofiant Eryron Gwyllt Walia, t. 20).] Gan ddiffyg cof, nid oedd ganddo yn niwedd ei oes ond rhyw un pennill i'w roi allan, a dyma oedd hwnnw:
Dywed i mi pa ddyn a drig
I'th lŷs parchedig Arglwydd;
A phwy a erys ac a fydd
Yn nhrigfa dy sancteiddrwydd.
Yr oedd ei gyd-swyddogion yn hoff iawn ohono, yn enwedig y Parch. D. Jones." Y mae fod Evan Richardson a Dafydd Jones mor hoff ohono yn docyn aelodaeth iddo i gymdeithas