Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/94

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

etholedigion duwiolfryd nawsaidd. A dengys y cyfuniad o'i hunanfeddiant tawel a'i ddireidi a'i felancoli,—canys fe arferid adrodd gynt fod hynny yn ei nodweddu, ac yn achos o'r camgymeriadau digrifol y cyfeiriwyd atynt,—natur gyfoethog, a thyner, a siriolwych, pan yn ymysgwyd oddiwrth y dymer drymbluog, ac yn dechre hedfan fymryn i'r glesni tawel. A chan ei fod mewn gweddi, megys plentyn gyda'i dad, fe welir mai gwr cynefin â'r Orsedd ydoedd, ac wedi ymddihatru oddi— wrth ffug a rhodres a phenboethni, os bu efe erioed yn euog ohonynt. Gwerth i ni ddeall cymaint a hyn am flaenor cyntaf Methodistiaid Caernarvon.

Gorffennaf 8, 1846, yn 76 oed, y bu farw John Huxley, ymhen deuddeng niwrnod ar ol Dafydd Jones y cwper. Tynnwyd ymaith ynddynt hwy ill dau gryn lawer o'r addfed ffrwyth cyntaf. Yn fachgen gwyllt a direidus, fe ofynnodd ei gyfaill, Robert Griffith Penrallt, a fu farw o'i flaen ef, i John Huxley ddod i wrando pregeth ar bnawn Sul i ffermdy yn agos i Bencefn, sef naill ai yn y Wern yn agos i Gaeathro neu yn Glanrafon bach, fel yr adroddai ef ei hun wrth W. P. Williams. Yr oedd ar John gywilydd rhag y meddwl am y fath beth, canys eglwyswr ydoedd, ond fe'i perswadiwyd yn y man, er na fynnai fyned i mewn i'r tŷ namyn gwrando oddiallan gyda'i het ar ei wyneb rhag ei adnabod. Chwarddai John yn ei het am ben dull gwledig a digrif yr hen bregethwr; ond yn y man fe ddechreuodd y pethau ymaflyd yn ei feddwl, ac aeth i wylo yn chwerw bellach yn ei het, fel yr oedd arno gywilydd ei weled. Dafydd Cadwaladr oedd y pregethwr. Cymhellodd Robert ef i fyned i'r cymun. Yr oedd geiriau Robert, Jac, a fuost ti erioed yn dy gymun?" fel swn yn ei glustiau ddydd a nos. Dechreuodd ddarllen ei Feibl a gweddio. Ysgrifennai wersi o'r Beibl ar wainscoat ei wely, a darllenai y rheiny gan eu cymhwyso ato'i hun. Gyda theimladau cymysg yr aeth i'r cymun yn yr eglwys ar y pasc. Dan argyhoeddiad meddwl troes ei wyneb i'r seiat ym Mhenrallt yn 1796, pan yn 26 oed. Ar y ffordd yno, ebe Peter Ellis wrtho,—"Wel, Jac, i ble yr wyti'n mynd y ffordd yma ?" Cymhellwyd ef gan Peter Ellis i ddod i mewn gyda hwy, ar ol iddo ddangos mai dyna oedd ei feddwl. Dechreuodd John Elias, oedd yn yr ysgol gydag Evan Richardson, ei chwilio a'i chwalu, a dywedai yn y man yr ofnai na byddai yno dri mis. Eithr fe'i hymgeleddwyd gan Evan