ganddo roi anerchiad yng nghyfarfod y Feibl Gymdeithas yn y dref, eithr fe draddododd un o'r areithiau mwyaf hyawdl a grymus a oeddid wedi gael o gwbl. Unwaith y clywodd Hugh Roberts ef yn pregethu, sef yng Nghyfarfod Misol Brynengan. Hanes dioddefiadau Crist oedd sylwedd ei bregeth, ac yr oedd yn traddodi gyda'r fath oleuni, teimlad, gwres a llewyrch, fel yr oedd yr holl gynulleidfa wedi ei gorchfygu, yn toddi mewn dagrau, ac eraill yn llefain, fel yr oedd yn anhawdd ei glywed cyn diwedd yr oedfa." Nid ymgymerodd â'r symudiad dirwestol, ac aml bicell a deflid ato o'r herwydd yng nghyfarfodydd dirwestol brwd dyddiau cyntaf dirwest. Ei yrru ymhellach oddiwrth y symudiad a wnae hynny, fe debygir, ac nid hir y bu heb weled amryw o'i ymosodwyr eu hunain yn ymdrybaeddu yn y ffos. Byddai yn gyson yn y cyfarfodydd eglwysig, a rhagorai yno yn anad unman. Fe arferai Simon Hobley a dweyd yr ymddyrchafai ei lais yn arafdeg fel yr elai ymlaen gan ymgomio gyda hwn a'r llall, ac y byddai o'r diwedd mewn aml seiat wedi ymddyrchafu megys i nen y capel, ac wedi mwyneiddio nes myned yn fath o bersain ysbrydol. "Mwyn mwyn" y disgrifid ei lais ganddo ef. Ac yn ei feddwl ef, nid oedd neb a glywodd yn y cyfarfod eglwysig yn hafal iddo. Dywed W. P. Williams mai i'w ddwylo ef y daeth yr awenau ar ol Evan Richardson, ac mai efe, hefyd, oedd y nesaf iddo mewn dylanwad. Yr oedd yn dra hoff o gerddoriaeth. Tŷb W. P. Williams mai efe a chwareuai y bass viol yn yr eglwys gynt, a thra hoff ydoedd o'r hen donau Cymreig. Arferai ddweyd am y dôn Dorcas, os byddai canu yn y nefoedd, y byddai canu ar yr hen Dorcas yno. (Drysorfa, 1846, t. 256; 1849, t. 47; 1870, t. 215.)
Hydref 16, 1849, dewiswyd yn flaenoriaid, Henry Jonathan a John Richardson. Awst 6 o'r un flwyddyn yr oedd Griffith Parry yn cael ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Dros ysbaid gymharol ferr y bu John Richardson yn y swydd. Bu farw yn 37 oed. Mab Evan Richardson ydoedd. Dyma sylw W. P. Williams arno: "Yr oedd yn ddyn gwir dduwiol, ac yn hynod ddidderbyn wyneb a llym mewn disgyblaeth eglwysig. Feallai weithiau yn lled arw, ac heb ddangos digon o barch i deimladau ei frodyr. Ar yr un pryd, rhaid addef fod llawer o bethau rhagorol ynddo, a chredwn y buasai'n gwneud blaenor cymeradwy pe cawsai fyw." Dywed Mrs.