Ebrill 17, 1888, y bu farw William Roberts, mab Thomas Roberts Bryn eryr, yr hen flaenor ffyddlon a charedig yn Seion, ac yntau yn 62 mlwydd oed. Dygai'r mab yr un nodau a'r tad. Nid oedd ball ar ei garedigrwydd yntau, nac ar ei gariad at yr achos. Danghosai ddeheurwydd mewn tynnu dynion eraill allan i weithio ac i siarad, a chuddio'i hun o'r golwg. Cyfaill Eben Fardd, a'r un a welodd ei drem sefydlog olaf ar y pethau ni ddileir.
Yn y flwyddyn hon y symudodd Mr. William Jones (Bodaden), wedi bod yn flaenor yma am oddeutu ugain mlynedd. Yr un flwyddyn y dewiswyd H.W. Hughes a G. W. Roberts yn flaenoriaid. Symudodd y blaenaf i Lanrug yn 1892.
Yn 1889 y bu farw R. H. Owen, yn wr ieuanc crefyddol a deallgar. Yn 1891 y penodwyd John Owen Cilcoed yn flaenor, yn lled ddiweddar ar ei oes. Bu farw yn 1898. Gwr myfyrgar. Pwnc neilltuol yn ei weddi bob tro. Dawn yng ngwaith yr ysgol Sul. Gwên dawel sefydlog gwr mewn heddwch â'i gydwybod ar ei wyneb. Yn 1892 y penodwyd Hugh Owen Penarth i'r swydd. Yn 1893 y daeth Hugh Jones Penrallt o Bwlchderwydd. Yn 1895 y bu farw Thomas Evans, wedi bod yn y swydd am saith mlynedd, ac yn graddol gynyddu ynddi. Yn 1900 galwyd O. Jones a ddaeth yma o Holt Road, Lerpwl.
Bu yma o bryd i bryd rai pobl go neilltuol heb fod mewn swydd. Rhai go hynod oedd Dafydd Owen Aberdesach ac Ann Roberts ei wraig. Ym marn Mr. John Jones Llanfaglan, y ddau hynotaf, yn wr a gwraig, a welodd efe. Bu Dafydd Owen farw yn 85 mlwydd oed. Achyddwr penigamp o fewn terfynnau ei blwyf ei hun. Gallai dynnu amlinelliad o'r plwyf a'r plwyfi cylchynnol â rhaw ar wyneb y maes gyda chywirdeb. Darllenwr mawr ar Eiriadur Charles. Gwr tawel, hamddenol. Ni ddaeth at grefydd nes bod yn hanner cant oed. Yn y Capel Uchaf yr oedd hynny. Pan ofynnwyd iddo a oedd rhywbeth neilltuol wedi dal ar ei feddwl, dywedai nad oedd dim felly; ond ei fod wedi ei wneud yn bwnc o fyfyrdod, a bod rhesymoldeb y peth wedi cymell ei hunan arno, ac iddo ufuddhau i'r cymhelliad a orweddai yn yr ystyriaeth o resymoldeb y broffes o grefydd. Yr oedd yn athraw Sul diguro, y goreu yn ysgol Ebenezer. Hen bobl yn ei ddosbarth, rhai go lew, rhai go sal. Hugh Jones Teiliwr yn darllen un tro, gan ddod ar draws y geiriau, "A fedri di Roeg?" "A fedri di—?" Ceisio