Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/101

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedyn, dro neu ddau. "A fedri di-?" Yr athraw yn gadael iddo. O'r diwedd dyma Hugh Jones a hi allan, "A fedri di rogri?" Chwerthin mawr. Ebe'r athraw yn hamddenol, "Well done, Hugh Jones, cais reit dda!" Byddai pregethwyr Clynnog yn rhyfeddu at ei weddiau sylweddol. Nid yn hwyliog, nid yn gwneud unrhyw arddanghosiad, ond yn dawel, synwyrol, sylweddol. Cymeriad cryf: yn gall iawn; ni ddatguddiai gyfrinach byth; yn wr pybyr. Llawn gyn hynoted a'i gwr oedd Ann Roberts, a hynotach mewn crefydd. Ei mam yn gyfnither i Robert Roberts, a'i hewythr o frawd ei mam yn daid i David Roberts Rhiw Ffestiniog. Bu hi farw Mawrth 1879 yn 82 mlwydd oed. Dywed Mr. John Williams Caergybi y byddai arno gryn arswyd myned ati am ei phrofiad, a dywed Mr. John Jones Llanfaglan y gwelodd efe hi yn cornelu Dewi Arfon liaws o weithiau, ac y byddai yntau yn ysgwyd gan chwerthin wrth gael ei gornelu felly. Yn gryf ei synwyr ac yn gryf ei meddwl, yr hynotaf o ferched yr ardal. Yr oedd wedi darllen gryn lawer ar lyfrau, yn gynefin â'r ysgrythyr, ac yn deall pynciau yn glir. Unwaith yr oedd yn o isel ei phrofiad yn y seiat. "Mi wn ym mhle mae'r drwg," ebe hi. Byw yr wyf ormod ynof fy hun yn lle myned allan at y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu. Arno ef y dylwn bwyso, ac nid ar fy ffydd neu fy nheimladau." Gwr o ddirnadaeth yw ei mab, Robert Owen Aberdesach. peth dywaetha ddwedodd hi wrtha'i," ebe fe, "oedd gofyn a oedd y cyfamod yn dal? Fod y diafol yn dweyd wrthi fod y cyfamod wedi torri. Meddwn innau, 'Mae'r cyfamod yn dal.' 'Yr ydw'i yn sâff, ynte, felly, achos yr ydw'i yn rhwymyn y cyfamod ers pum mlynedd a thrigain.' Ac yna, meddai hi, 'Nid ofnaf pe symudai y ddaear.'" Cerddodd ddwywaith i'r Bala i'r Sasiwn.

Byddai hi a'i gwr yn hamddenol a difyr iawn efo'u gilydd. Evan Thomas y crydd, hawdd ei dramgwyddo, hawdd ei gymodi. Cyson a phrydlon yn y moddion. Yn ei flynyddoedd olaf, heb fod yn flaenor, efe a alwai ar rai i gymeryd rhan gyhoeddus. O ysbryd gwir grefyddol. Gwr o Eifionydd, a geid yn ymgomio âg Eben Fardd yn amlach na neb ond Robert Parry Maesglas, gwr arall o Eifionydd. Dawn ganddo i adrodd straeon am yr hen gymeriadau. Yr oedd efe yn ramadegwr yn ol ei radd, ac yn athraw ar y dosbarth athrawon. Ni ddaeth yn aelod o'r eglwys hyd ei gystudd olaf, ac edifeiriol iawn ydoedd oherwydd hir oedi. Holwyddorydd y plant go neilltuol oedd Owen Jones, a go neilltuol