blentyn. Ganwyd ef yn 1775. Coffheir yn ei Gofiant ef (t. 16) yr agorwyd ysgol Seisnig yn Ffrwd-yr-ysgyfarnog ar Mehefin 10, 1787, mewn tŷ eang, a bod yr athraw, David Wilson, yn ysgolhaig rhagorol. Aeth John Parry yno yn fuan iawn ar ol agor yr ysgol, ac yr oedd wedi bod gyda John Roberts Llanllyfni cyn hynny. Yr oedd cyfleusterau y cyfnod hwnnw, mewn ffordd o addysg gyffredin, mewn rhai mannau, yn fwy nag a dybir weithiau.
Mewn cyfnod diweddarach, drwy ddilyn esiampl Eben Fardd, fe wnawd nid ychydig yn y cylchoedd hyn drwy gyfrwng y cyfarfodydd llenyddol. Tebyg fod eu dylanwad hwythau yn lleihau gyda chynnydd addysg gyffredin; ond fe fuont yn wasanaethgar ar un tymor yn niffyg manteision llawnach.
Mae adroddiad yr ymwelwyr â'r Ysgol Sul yn Nosbarth Clynnog am 1857 ar gadw. Dyma fe: "Yr ysgolion oll yn cael eu cario ymlaen braidd ar yr un cynllun, ac yn yr un dull, mewn rhan yn darllen rhag eu blaen, ac mewn rhan yn holi wrth ddarllen. Cyffyrddid yn ysgafn â gramadegu mewn ychydig o ddosbarthiadau; ond yr oedd y syniad yn bur gyffredinol nad gweddus fyddai ymollwng yn ormod i'r dull hwn. Yr oedd canu cyffredinol da, fel y tybiem ni, ynddynt oll braidd. Yr holi cyffredinol ar ddiwedd yr ysgol yn fedrus, yn flasus ac yn fuddiol. Danghosid trefn dda a disgyblaeth. Yr oedd agwedd y lliaws yn brydferth a gweddaidd. Oddiwrth rai samplau a dynnent ein sylw, yr oeddem yn bwriadu cynnyg yn ostyngedig ychydig o awgrymiadau o duedd i wella cyflwr yr ysgolion. (1) Fod i'r arolygwr ymdrechu dosbarthu y plant bach yn nifer mor gymwys a chyfartal i'w gilydd ag a'u gwnelai yn hylaw i athraw neu athrawes eu trin a'u dysgu yn effeithiol. (2) Fod i bob athraw ymdrechu peidio â derbyn neb i'w ddosbarth, na gollwng neb allan ohono, heb gydsyniad yr arolygwr. (3) Fod i'r holl athrawon ymgyrraedd â'u holl egni at y nôd o fedrusrwydd meistrolaidd mewn darllen yn eu dosbarthiadau. Gofidus yw addef fod nifer fawr o'r rhai sydd yn eu Testamentau a'u Beiblau, fel y dywedwn, yn ddarllenwyr hynod of fusgrell ac amherffaith wedi'r cwbl. (4) Tra yr ydym yn coleddu syniadau uchel a pharchus am yr hen athrawon sydd wrth y gorchwyl o addysgu plant bach, a'u cymeryd oll gyda'u gilydd, eto rhaid i ni ddweyd y gwelwn ychydig nifer gyda'r gorchwyl yn llwyr anghymwys iddo ar gyfrif eu henaint,—eu clyw yn drwm, &c. Cynghorem yr arolygwyr i symud y cyfryw i leoedd eraill. Eto