Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/115

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Robert Thomas, y tad, oedd pen campwr y plwyf, a mawr y syndod pan aeth efe yn bengrwn.

Yr oedd troedigaeth Robert Thomas yn un hynod. Llun y Sulgwyn, yng Ngwylmabsant Clynnog, yr oedd ymladdfa wedi ei phennu rhwng plwyf Clynnog a phlwyf Llanllyfni. Dacw Robert Thomas yn cychwyn yn fore o'r Ffridd, "a chlamp o ffon dderwen yn ei law," a'i briod a'i blant yn llefain yn ei wyneb rhag nas gwelent ef yn ddianaf fyth ond hynny. "Tewch â gwirioni, ffyliaid," ebe yntau, "myn diawl, mi falaf un hanner dwsin ohonynt yn gocos, nes y diango'r hanner dwsin arall." Yn y modd hynny Robert y pencampwr! Eithr yr oedd bwriad gwahanol ymherthynas âg ef gan ei gryfach. Erbyn cyrraedd ohono dŷ Edward y Teiliwr, gerllaw y Capel Uchaf, fe glywai ganu, ac aeth i mewn. Yn y man gweddiwyd. Teimlai'r cawr fel wedi ei hoelio wrth lawr y tŷ fel nad allai fyned allan. Dyma wr yn cymeryd ei destyn: Canys daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a ddichon sefyll?" Argyhoeddwyd y pencampwr. James o Drefecca oedd y pregethwr. Aeth Robert Thomas ar ol yr oedfa ar ei union adref. Wrth weled ei wedd ddifrif, gofynnai'r wraig iddo, "Robert bach, a ydych yn sâl?" "O, nac ydwyf, Cadi bach, yr wyf heddyw yn dechre gwella am byth." Yna fe eglurodd y digwyddiad i'w deulu. "Cadi," eb efe wrth ei briod, "ni feddwaf ac nid ymladdaf byth mwy ond â'r cythraul a phechod." Yr oedd y wraig, a'r mab John, mewn dagrau o lawenydd. "Gobeithio mai felly y bydd, Robert bach," ebe hithau. "Na wnaf byth, Cadi, drwy gymorth gras Duw." Ar ol swper aeth drwy'r ddyledswydd deuluaidd, â'r hyn ni pheidiodd mwyach. Nid anturiodd pobl Llanllyfni ymladd heb eu cawr y Llun Sulgwyn hwnnw. Ymunodd ef a'i wraig cyn hir â'r ddeadell fechan yn y Buarthau. Fel gyda Saul gynt, yr oedd ar y saint ei led arswyd ar y dechre. Pan holid ef yn o fanwl y noswaith gyntaf gan un John Pyrs, a ddigwyddai fod yno, fe dorrodd allan, "Ai fy ameu yr ydych, John Pyrs?" nes fod hwnnw yn gwywo o'i flaen rhag ofn ei fod ar ymollwng i'w hen natur. "O, nage, Robert bach, nid ydym yn ameu dim o'ch geirwiredd; ond y mae'n rhaid i chwi wrth fwy o ras i'ch gwneud yn ddyn nag i eraill i'w gwneud yn Gristnogion." (Gweler Gofiant Michael Roberts i'w dad). Agorodd Robert Thomas ei dŷ, sef Ffriddbaladeulyn, i bregethu, a bu pregethu yno am 52 mlynedd. Fe ddwedir y torrai yn orfoledd yn y Ffridd dan ambell i bregeth,