â William Williams y Buarthau, er mawr gysur ac adeiladaeth dduwiol iddynt ill dau. Buont yn cadw'r tŷ capel am dros hanner can mlynedd. Ymgeleddgar iawn oedd hi o bregethwyr, a hynny braidd yn gwbl ar ei thraul ei hunan. Yr oedd ei ffydd yn gref. Un tro, gofynnodd ei merch ynghyfraith iddi, a fyddai arni ofn marw weithiau? Atebodd hithau y byddai'r niwl weithiau yn myned dros ei meddwl, ac yna yr ofnai ac yr arswydai; ond yn y man fe giliai'r niwl, a hi a welai'r Graig yn eglurach nag erioed. Ei hoff bennill:
Mi wn mai'r taliad hyn
Wnaed ar Galfaria fryn,
A'm canna oll yn wyn
Oddiwrth fy mai.
Codai yn foreuach ar y Sul na diwrnod arall er cael myned i foddion gras, a threuliai'r diwrnod mewn darllen, gweddio, gwrando, ac ymddiddan am bethau ysbrydol. Ei dyddiau eraill a dreuliai yn ofn yr Arglwydd, ac nid mewn gwag siaradach. Hynod ei diwydrwydd yn rhag-ddarpar dros ei theulu. Pan fyddai'r gwr oddi cartref, hi gadwai'r ddyledswydd deuluaidd ei hunan. Wynebodd angeu yn ddiarswyd. Fel yr hen Jacob gynt, hi dynnodd ei thraed ati i'r gwely, yn dawel ei henaid, gan ymorwedd ar gadernid y cyfamod. Dywedodd wrth un o'i chyfeillion am beri gweddio drosti yn y capel. "Na weddiwch am i mi gael fy nghyfiawnhau na'm haileni, na'm symud o farwolaeth i fywyd. Mae hynny wedi ei gyflawni ers talm. Ond gweddiwch am i'r wawr lewyrchu yn fwy eglur arnaf yn yr afon." Nid oedd y llewyrch mor amlwg y Sadwrn, wythnos i'r diwrnod y claddwyd hi. Eithr y noson honno hi dorrodd allan i ganu:
'Rwy'n madael â'r creaduriaid
'N ffarwelio bron yn llwyr ;
'Does ond yr Oen fu farw
A'm nertha i y'mrig yr hwyr.
Aeth yn oleuach oleuach arni yn ol hynny. Pan ddarllennodd cyfaill 1 Thesaloniaid iv. iddi, ar ei dymuniad, a phan ddaeth efe at y geiriau, "Y meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf," ebe hi, "Nyni a gawn y blaen y bore hwnnw." Ar ol gwasgfa, pan y tybid ei bod yn marw, ebe hi, "Yr oeddwn yn meddwl y cawswn fy ngollwng y tro hwn," ac yna gyda wyneb siriol, mewn llais egwan, heriodd angeu:
Tyred angeu, moes dy law,
Fe ddarfu braw dy ddyrnod.