Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/127

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlynedd. Rhoddwyd heibio gynnal ysgol ym Mhencraig a Rhwng- y-ddwy-afon. Aeth rhai i'r ysgoldy, eraill i Salem, a darfu i eraill ddechre cadw ysgol yn Nhaldrwst.

Rhydd yr Asiedydd rai enghreifftiau o ddisgyblaeth yn yr eglwys. Ar achosion felly byddai pregethwr yn gyffredin yn cynorthwyo. Yr oedd Evan Richardson yma un tro yn diarddel hen wraig o ochr y mynydd. Wedi'r diarddeliad, yn ol yr arfer y pryd hwnnw, awd a hi allan ar ganol y moddion. Eithr nid cynt yr oedd hi allan drwy un drws nad dyma hi i mewn drwy'r llall, gan gyfarch Evan Richardson, "Bydd drugarog wrth dy gydgreadur." Eithr allan y bu raid myned drachefn. Wrth ymddiddan â'r cyfeillion yn y seiat, ebe Evan Richardson wrth wr oedd newydd ei wneud yn oruchwyliwr yn y chwarel, "Byddai'n well iti gymeryd carreg yn dy big rhag ofn iti ehedeg yn rhy uchel." Mewn achos o ddisgyblaeth go ddryslyd, gofynnwyd i David Jones Penbrynmawr am ei feddwl ef arno. "Wel, ni wn i ddim, yn wir," ebe yntau; yr wyf yn ei weled yn union fel pen-nionyn: wedi tynnu un gôd daw un arall i'r golwg o hyd!" Tua'r flwyddyn 1826, fe ddaeth cŵyn yn erbyn un o'r blaenoriaid, ddarfod iddo fyned i Gaernarvon ar y Sul ynghylch rhyw faterion cyffredin a meddwi yno. Yr oedd efe yn wr doniol, a methu gan yr eglwys wneud dim ohono. Daeth John Jones Tremadoc a Michael Roberts yno i gynorthwyo. Ond methu ganddynt ei gael ef i syrthio ar ei fai. Ymestynodd yr helynt dros fisoedd. Casglwr y trethi oedd. ef, a dyma gŵyn yn ei erbyn ynglyn âg arian y dreth. Ar hynny fe'i diarddelwyd, ac aeth o'r ardal, ac ni wyddis eto pa beth a ddaeth ohono.

Dengys ei Gofiant fod yr hybarch Robert Jones, gweinidog y Bedyddwyr yn Llanllyfni, yn dilyn y Methodistiaid hyd oddeutu'r flwyddyn 1826, sef hyd pan ydoedd oddeutu ugain mlwydd oed. Fel hyn y dywed am dano'i hun: "Yn ysgolion y Methodistiaid y cefais i fy magu, a bum yn wrandawr cyson gyda hwy hyd nes oeddwn o gylch ugain mlwydd oed. Yn amser fy mebyd yr oedd ganddynt ysgolion Sabothol mewn tŷ annedd o fewn hanner milltir i'm cartref. Dynion o wybodaeth a doniau bychain oedd yr athrawon, ond yr oeddynt yn ddynion ffyddlawn ac ymroddgar. Yr oedd yr ysgol fechan hon yn un o'r rhai goreu a welais i yn fy nydd y mae gennyf achos i ddiolch i'r Arglwydd am dani, fel un o'r manteision goreu a gefais ym more fy oes. Nid oedd ganddynt