HANES METHODISTIAETH ARFON.
ARDAL CLYNNOG.
ARWEINIOL.[1]
FE orweddai'r holl ardal hon mewn cwsg ysbrydol trwm, pan ddechreuwyd blino ychydig arni yn y cwsg hwnnw gan rai o'r cynghorwyr Methodistaidd tua chanol y ddeunawfed ganrif. Ymhen ychydig ddegau o flynyddoedd, nid oedd llecyn yng Nghymru ag y buasai yn ddiogelach dywedyd am dano fod gweledigaeth Ysgol Jacob yn ganfyddadwy yno. Nid oes hanes i gysgadrwydd ysbrydol nid yw namyn breuddwyd aflonydd yn gwatwar bywyd, pan nad yw yn syrthni llwyr a hollol. Chwareuon, ymladdfeydd, adrodd chwedlau, gweledigaethau hygoelus: dyma y rhith of fywyd sydd i'w adrodd. Dywedai Robert Hughes Uwchlaw'r-ffynnon, gwr a breswyliodd dros ystod ei oes yn yr ardaloedd hyn, wrth y Prifathro Rhys, ei fod ef yn cynrychioli traddodiadau canrif a hanner, yn gymaint ag y clywodd adgofion hen daid iddo a fu farw yn ddeuddeg a phedwarugain oed, ac y byddai y bobl yn yr hen amser, wedi bod yn adrodd eu chwedlau wrth eu gilydd yn eu cyfarfodydd llawen, yn barod i weled unrhyw beth, ysbrydion, y tylwyth teg, a rhyfeddodau eraill (Celtic Folklore, t. 215). Y crebwyll a rydd fod i'w fyd anweledig, a rhaid iddo'i gael yn rhyw ffurf neu gilydd. Dyma'r tymor y ffynnai dewiniaid yng Nghymru. Ffynnant heddyw yn Lloegr dan enwau eraill ymhlith gwyr gwybodus ac anwybodus yr un fath. Hen wr o ardal y Capel Uchaf a arferai ddweyd am dano'i hun yn ymweled yn ei ieuenctid â dewines Coch-y-big yn ardal Brynaerau, ac fel y gwelodd y crochan llymru ar y tân yno, hyd nes y cipiwyd hi oddiyno gan law anweledig, pan y gwelai hi yn nen y tŷ yn berwi yn grychias ulw. William Thomas Brysgyni ganol oedd hen wr eithaf anhydrin; ond pan fyddai efe wrthi yn hel dormach ar rywun, ni byddai raid ond bygwth myned a'i achos at y ddewines nad elai fel oen llyweth yn y fan.
- ↑ Llawysgrifau Eben Fardd. Ymddiddan 4 Mr. David Jones Bwlchgwynt